Skip to main content

Cynnig i gau Ysgol Gynradd Tref Y Rhyg gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Cytunodd Cabinet y Cyngor, yn eu cyfarfod ar 23 Medi 2024, i ddechrau'r ymgynghoriad trefniadaeth ysgolion statudol perthnasol ac angenrheidiol i gau Ysgol Gynradd Tref Y Rhyg ac ymestyn dalgylch Ysgol Gymunedol Tonyrefail i ymgorffori dalgylch Ysgol Gynradd Tref Y Rhyg.

Cynigir y bydd Ysgol Gynradd Tref Y Rhyg yn cau gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gymunedol Tonyrefail erbyn mis Medi 2025 fan bellaf.

Cynhelir y cynnig yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion LlC (2il Argraffiad) (011 /2018) ac o'r herwydd mae'r dogfennau canlynol wedi'u paratoi: 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 17:00 dydd Gwener 15 Tachwedd 2024.

Cysylltwch â ni

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN

Rhif Ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.