Skip to main content

Ymgynghoriad Cartref Gofal Preswyl

Ym mis Medi 2024, darparodd y Cyngor adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynlluniau’r Cyngor ar gyfer llety â gofal gan amlinellu cynigion i gefnogi newidiadau posibl yn anghenion y boblogaeth yn y dyfodol a datblygu llety mwy cost-effeithiol gyda datrysiadau gofal.

Cafodd y cynigion eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ac roedd cytundeb y dylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau a argymhellir ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl y Cyngor rhwng 1 Hydref 2024 a 30 Tachwedd 2024.

Amlinellir manylion yr opsiynau a ffafrir gan y Cabinet ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl y Cyngor yn y llyfryn hwn.

Mae'n debyg y bydd gyda chi gwestiynau am y cynigion, ac rydyn ni wedi ceisio ateb rhywfaint ohonyn nhw yma.

Mae’r Cyngor yn eich gwahodd i gyflwyno’ch barn a gwneud unrhyw sylwadau sydd gennych chi mewn perthynas â’r opsiynau a argymhellir, yn ogystal â nodi unrhyw opsiynau neu newidiadau eraill yr hoffech iddyn nhw gael eu hystyried.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 30 Tachwedd 2024

Cysylltwch â ni

Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH

Y Garfan Ymgynghori

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Trydydd Llawr

2 Llys Cadwyn

Pontypridd

CF37 4TH

Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.