Skip to main content
Health and Wellbeing

Iechyd a Lles yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, cydweithwyr ym maes Iechyd ac Interlink RCT i wneud cais am bum mlynedd o gyllid i ddatblygu Canolfan Ymchwil ar Faterion Iechyd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar waith ymchwil, gan gynnwys barn trigolion, i wella iechyd a lles pobl Rhondda Cynon Taf.

Mae cynnwys y cyhoedd yn ein gwaith a chydweithio gyda chynifer o bobl â phosibl yn rhan hollbwysig o'n cynnig ni a'r ganolfan.

Rydyn ni'n awyddus i'r gymuned gael dweud ei dweud ar sut mae modd defnyddio gwaith ymchwil yn Rhondda Cynon Taf.

Pe bai’r cynnig yn llwyddiannus, byddai’r bartneriaeth yn cynnal achlysuron ymgysylltu yn y gymuned, ac yn penodi sawl trigolyn yn Ddinesydd sy'n Ymchwilydd. Mae hyn yn gyfle i drigolion wneud y canlynol:

  • Bod yn rhan o'r carfanau rheoli a chynghori
  • Cymryd rhan mewn gweithdai i benderfynu ar flaenoriaethau ymchwil yn Rhondda Cynon Taf
  • Bod yn rhan o waith dylunio astudiaethau ymchwil a chymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil
  • Rhannu canfyddiadau trwy rwydweithiau a grwpiau cymunedol

Byddai’r bartneriaeth yn darparu'r canlynol ar eich cyfer:

  • Cymorth a Hyfforddiant
  • Tâl am eich amser a’ch treuliau, gan gynnwys unrhyw gostau sy’n ymwneud â gofal

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyllid y rydyn ni'n gwneud cais amdano, a’r trefniadau i gefnogi Dinasyddion sy'n Ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol yma:

Call for proposals: NIHR Health Determinants Research Collaborations (HDRC) specification document | NIHR (Ar gael yn Saesneg yn unig)

Payment guidance for researchers and professionals | NIHR (Ar gael yn Saesneg yn unig)

E-bost: ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk