Skip to main content

Safle Hen Ffatri Cyw Iâr Mayhew

Mae Adran Ffyniant a Datblygu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gobeithio datblygu prosiect ar safle hen ffatri cyw iâr Mayhew, Trecynon. 

Diben y prosiect yw cynyddu lefelau ymgysylltedd a chyflogaeth trwy fuddsoddi mewn isadeiledd lleol a rhanbarthol. Mae safle hen ffatri cyw iâr Mayhew yn gyfle ailddatblygu arwyddocaol ar gyfer safle busnes modern a chyfleuster parcio a theithio (gan gynnwys maes parcio gyda mannau gwefru ceir trydanol a phont teithio llesol) er mwyn paratoi ar gyfer estyniad arfaethedig y rheilffordd tu hwnt i Aberdâr.

Byddai'r datblygiad yma'n cefnogi cynnig y METRO i ymestyn y rheilffordd tu hwnt i Aberdâr a darparu cysylltedd gwell i'r rhanbarth ac anheddiad lleol ar hyd yr A465 Blaenau'r Cymoedd a Phorth Cwm Cynon.

Bydd y prosiect yn darparu capasiti trafnidiaeth yn y dyfodol i ymdopi â'r galw ac yn gwella hygyrchedd ac ymgysylltedd ac yn lleihau amser teithio rhwng anheddiadau allweddol yn rhanbarth De-Ddwyrain Cymru. Bydd y prosiect yn gwella mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd swyddi yn y dyfodol trwy wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedg ar gyfer teithiau ar hyd y cymoedd.

Felly, bydd y prosiect yn fuddiol i ddadwneud colled safle cyflogaeth fawr ac yn creu parc busnes modern, cyfleoedd swyddi o ansawdd mewn ardal sy'n bwysig yn rhanbarthol ac yn mynd i'r afael â'r diffyg unedau diwydiannol modern yn y rhanbarth i gefnogi tyfiant busnesau bach a chanolig trwy gynyddu cynhyrchiant.
 
Mae'r ymgynghoriad yma'n gobeithio deall safbwyntiau ynglŷn â'r safle a'r cynigion am brosiectau a deall a oes angen gwella lleoliad y safle.

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun, 6 Mehefin ac yn parhau hyd at ddydd Gwener, 1 Gorffennaf 2022.

Nodwch: Mae'r prosiect yma yng nghamau cyntaf ei ddatblygiad, felly, dyw'r cynlluniau terfynol ddim wedi'u paratoi eto. Mae croeso ichi gyflwyno sylwadau ar y cynigion cychwynnol. Os bydd y prosiect yn mynd rhagddo, byddwn ni'n rhoi manylion pellach.

Mae sawl ffordd i chi gael dweud eich dweud;

Ar-lein:

Llenwi'r holiadur ar-lein

E-bost

E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk

Ffonio:

Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun, ffoniwch – 01443 425014

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.