Skip to main content

Dyfodol Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a phenseiri Purcell ar gynllun adfywio uchelgeisiol ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd.
muni arial design


Muni PhotoBydd y cynlluniau'n datguddio pensaernïaeth Gothig odidog y Miwni ac yn creu lleoliad celfyddydol rhanbarthol unigryw, yn rhan o gynllun adnewyddu ac adfer mawr.  Byddai'r gwaith yma'n cadw a gwella nodweddion gwreiddiol a threftadaeth y Miwni a sicrhau ei bod yn addas i'r diben ac yn diwallu anghenion y gymuned leol. 

Cefndir;

Awen-Cultural-TrustSefydlwyd elusen Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn 2015, mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar weithgareddau diwylliannol.  Ym mis Mehefin 2019, cytunodd y Cyngor i ddechrau trafod yn ffurfiol gydag Awen, y cynigydd roedd yn ei ffafrio, er mwyn sicrhau dyfodol positif a chynaliadwy ar gyfer y Miwni.  Rydyn ni eisiau cynnwys ystod eang o randdeiliaid a thrigolion trwy gydol gwaith cynllunio a datblygu'r cynllun.

Gweld rhagor o wybodaeth am gefndir y cynllun

Sut alla i gymryd rhan?

Mae'r Miwni'n adeilad pwysig iawn i nifer o bobl a grwpiau lleol, mae'r Cyngor yn awyddus i ymgysylltu â'r gymuned ehangach wrth ddatblygu'r cynlluniau.

Cam 1 - Eich atgofion chi!

2004-18-10a

I gychwyn, rydyn ni'n awyddus i glywed yr atgofion sydd gyda chi am y Miwni, a gweld unrhyw luniau sydd gyda chi o'r adeilad.  Mae hyn yn cynnwys pan gafodd y Miwni ei ddefnyddio fel Capel Wesleaidd, hyd at heddiw.

  • Oeddech chi wedi priodi yn y Miwni?
  • Ydych chi neu'ch rhieni yn cofio'r Miwni'n cael ei ddefnyddio fel Eglwys?
  • Pa weithgareddau eraill ydych chi'n cofio'u mwynhau yn y Miwni?

Rydyn ni eisiau i chi rannu cynifer o atgofion ag sy'n bosibl.  Anfonwch unrhyw luniau ac atgofion sydd gyda chi gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol;

  • 1999.125.26E-bost: ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk
  • Post - Cyfeiriad Rhadbost: Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth Y Pafiliynau Parc Hen Lofa'r Cambrian Cwm Clydach Tonypandy CF40 2XX

Cam 2 - Ymgynghoriad Rhithwir â Rhanddeiliaid

Wesleyan Church and the Municipal BuildingsByddwn ni'n cynnal sawl gweithdy rhithwir byr gyda grwpiau defnyddwyr allweddol sydd wedi defnyddio'r adeilad neu sy'n debygol o ddefnyddio'r adeilad ar ôl i’r cynllun adfer gael ei gwblhau.  Os hoffech chi ddod i'r achlysur yma, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni.

Cam 3 - Ymgynghoriad Cyhoeddus Rhithiol

Gweld Byrddau Ymgynghori Cyhoeddus Canolfan Gelf y Miwni (PDF)

Mae'r ddolen isod yn rhoi cyfle ichi ddweud eich dweud ar rai cynlluniau arfaethedig ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni

http://doo.vote/muni_public_engagement_2020_welsh

Mae modd i chi hefyd anfon eich barn aton ni drwy e-bost neu gyda throad y post, am ddim, i'r cyfeiriad uchod.

Beth yw'r cam nesaf?

Ar ôl cwblhau'r ymgynghoriadau uchod, byddwn ni'n adolygu'r wybodaeth wedi'i chasglu cyn bwrw ati i ddatblygu gwaith dylunio manwl. Bydd y sylwadau rydyn ni'n eu derbyn yn helpu i lunio'r briff a'r rhaglen weithgareddau ar gyfer y Miwni.