Skip to main content

Cynllun Dyrannu Tai Rhondda Cynon Taf - Ymgynghori

Mae'r newidiadau a gynigiwyd i'r Cynllun presennol yn dilyn yr adolygiad yma wedi'u crynhoi yn y daflen Ymgynghoriad sydd wedi'i hatodi ynghlwm. 

Hoffem ni glywed eich barn ynghylch y cynigion yma.  Mae'r Cynllun Dyrannu Tai cyfredol (2014) wedi'i hatodi ynghlwm hefyd

Hoffem ni glywed eich sylwadau, yn bennaf, ynghylch a fyddai'r newidiadau arfaethedig yn cael effaith negyddol ar unrhyw grŵp o bobl yn benodol.

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno'ch barn yw 23ain Mawrth 2018.

Bydd eich atebion i gwestiynau'r arolwg yn cael eu defnyddio at ddiben llywio'r newidiadau a byddwn ni'n cadw'ch atebion yn gyfrinachol. Mae disgwyl i'r Cynllun Dyrannu Tai newydd gael ei gyflwyno yng Ngwanwyn 2018 yn dilyn yr ymgynghoriad yma.

Hoffech chi ymateb yn ysgrifenedig? Oes gyda chi unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Croeso i chi ffonio (01443) 424000, neu ebostio  StrategaethDai@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Diolch i chi ymlaen llaw am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.