Skip to main content

CYNIGION GOFAL PRESWYL - Yr hyn mae angen i chi ei wybod

Beth yw'r trefniadau presennol ar gyfer gofal preswyl?

Mae cyfanswm o 743 o leoedd mewn cartrefi gofal preswyl yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â 640 o leoedd mewn cartrefi nyrsio. Mae'r Cyngor yn darparu 322 o leoedd preswyl ar draws 11 o gartrefi gofal. Mae'r farchnad allanol yn darparu 421 o leoedd preswyl a 640 o leoedd mewn cartrefi nyrsio ar draws 25 o gartrefi preswyl a chartrefi gofal.

Beth yw'r cynigion?

Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i foderneiddio'i ddarpariaeth gofal preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys cadw saith cartref gofal i ganolbwyntio ar ofal cymhleth (Canolfan Adnoddau Cwrt Clydach yn Nhrealaw, Canolfan Adnoddau Tŷ Glynrhedyn (Ferndale House), Cartref Gofal Preswyl Tŷ Pentre, Canolfan Adnoddau Tegfan yn Nhrecynon, Cartref Gofal Preswyl Troed-y-rhiw yn Aberpennar, Canolfan Adnoddau Cae Glas yn y Ddraenen Wen a Chartref Gofal Preswyl Parc Newydd, Tonysguboriau). Byddai pedwar cartref gofal yn cael eu datgomisiynu o dan y cynnig yma - Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn y Gelli, Cartref Gofal Preswyl Ystrad Fechan yn Nhreorci, Cartref Gofal Preswyl Dan-y-mynydd yn y Porth a Chartref Gofal Preswyl Garth Olwg ym Mhentre'r Eglwys.

Pam mae'r Cyngor yn ystyried y newidiadau yma? 

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r rhai sydd ei angen. Mae'r Cyngor eisoes wedi cytuno i fuddsoddi £50 miliwn i ddatblygu cyfleusterau Gofal Ychwanegol sy'n hybu annibyniaeth, lles a dewis. Mae'r Cyngor yn gadarn ei farn bod preswylwyr yn haeddu'r gofal gorau trwy gydol eu bywydau, ac mae'r ymgynghoriad yn seiliedig ar ddyheadau uchel a chanlyniadau diriaethol o'r Gofal Ychwanegol sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Mae pobl yn byw yn hirach gyda mwy o gyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau a chyflyrau cymhleth. Maen nhw eisiau rhagor o ddewis ynglŷn â sut maen nhw'n cael gofal. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ystod ehangach o opsiynau ar gyfer cefnogi pobl ac yn arbennig y rhai ag anghenion gofal cymhleth, gan gynnwys dementia. Mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn cynyddu, ond mae'r galw am ofal preswyl yn lleihau wrth i ofal gael ei ddarparu fwyfwy yng nghartrefi pobl ac yn y cymunedau lle maen nhw'n byw. Serch hynny, byddai cadw rhywfaint o gartrefi gofal preswyl mewnol yn sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei ymrwymiad i gynnal cynnig mewnol yn y farchnad gofal preswyl leol.

Pam na allwn ni gadw pob un o'n cartrefi gofal cyfredol?

Mae'r cynnig preswyl mewnol cyfredol yn seiliedig ar fodel gofal traddodiadol, ac mae llawer o'r ystâd yn dangos ei oedran. Mae hyn yn cynnwys cyflwr yr adeiladau a'u dyluniad a'u pwrpas sylfaenol. Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i bwyso a mesur ei fodel cyfredol, gan adlewyrchu ar anghenion a dyheadau'r genedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Byddai'r cynnig yn darparu cyfleusterau gofal gwell a chynnig rhagor o ddewis i drigolion hŷn y Fwrdeistref Sirol, gan fod disgwyliadau trigolion yn newid o hyd. Mae Swyddogion wedi pwysleisio does dim modd i'r Cyngor ddiwallu'r anghenion hynny yn ei gartrefi gofal fel y maen nhw ar hyn o bryd. Roedd hynny'n allweddol wrth i'r Cabinet benderfynu gynnal ymgynghoriad pellach am y cynnig.

Beth fydd yn digwydd i breswylwyr y cartrefi gofal presennol, os bydd cytundeb ynglŷn â'r cynnig sy'n cael ei ffafrio?

Bydd pob preswylydd yn cael ei gefnogi'n llawn trwy gydol y broses yma. Bydd asesydd pwrpasol y Cyngor yn cynnal asesiad ac adolygiad llawn ar gyfer pob preswylydd, ac yn rhoi dewisiadau iddyn nhw a'u teuluoedd o lety sy'n addas ar gyfer eu hanghenion gofal a chymorth. Mae modd i hyn fod yn drosglwyddiad i Ofal Ychwanegol, neu i ddarpariaeth gofal cymhleth y Cyngor.

Beth am les preswylwyr cartrefi gofal? 

Lles preswylwyr fydd y brif ystyriaeth bob amser pe bai unrhyw gartref yn cael ei ddatgomisiynu. Byddai'r broses yn cael ei gynllunio a'i reoli'n ofalus dros gyfnod o amser, ac yn unol â chanllawiau arfer gorau cenedlaethol. Byddai preswylwyr, teuluoedd a ffrindiau preswylwyr a staff o'r cartref yn cael eu cynnwys yn y broses. Bydd y preswylydd a'r teulu yn cael eu cefnogi gan Ymarferydd Gofal Cymdeithasol a fydd yn asesu anghenion unigol ac yn trafod yr hyn sy'n well gyda nhw, ac yn helpu i ddewis gwasanaeth amgen priodol. Byddai hyn yn ystyried materion penodol fel cyfeillgarwch hirsefydlog. Byddai hyn yn cynnwys un pwynt cyswllt ar gyfer preswylwyr a'u teuluoedd.

Sut ydych chi'n mynd i reoli'r broses o symud yr holl drigolion petai'r cynnig yn cael ei gytuno?

Wrth gynnal yr asesiadau, byddai'r asesydd ymroddedig yn gweithio'n agos gyda phob unigolyn a'u teuluoedd. Byddai eiriolwyr a gweithwyr cymorth wrth law i gefnogi'r preswylwyr a'u teuluoedd trwy'r cyfnod o newid. Mae yna hefyd banel llety Gofal Ychwanegol i sicrhau bod y cyfnod yma yn mynd rhagddo mewn modd esmwyth. 

Beth fydd yn digwydd os bydd y cynnig yn cael ei gytuno, ond dydy rhywun sy'n byw mewn cartref gofal ddim eisiau symud?

Bydd eiriolwyr annibynnol a gweithwyr cymorth wrth law i sicrhau bod dymuniadau a barn eich perthynas yn hollbwysig mewn unrhyw ddewisiadau sy'n cael eu cyflwyno i bob unigolyn. Byddai hyn yn ystyried materion penodol fel cyfeillgarwch hirsefydlog. Mae rhai lletyau Gofal Ychwanegol yn caniatáu i aelodau'r teulu fyw gyda'i gilydd hefyd.
A fyddai preswylwyr yn cael eu lleoli'n lleol, pe bai eu cartref yn cau?Byddwn ni'n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i gyflwyno darpariaeth amgen o ansawdd addas ac ystyriaethau daearyddol. Byddwn ni'n gweithio ochr yn ochr â phreswylwyr unigol, teuluoedd, cynhalwyr ac eiriolwyr er mwyn rhoi'r gofal amgen mwyaf addas i'w hanghenion ar waith yn y dyfodol.

Beth fyddai'n digwydd i breswylwyr sydd ddim yn addas ar gyfer Gofal Ychwanegol?

Byddai'r rhai sydd ddim yn addas i gael Gofal Ychwanegol yn cael dewis o lety addas arall sy'n gallu diwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Byddai'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio gan y Cyngor ar gyfer gofal preswyl yn gweld y Cyngor yn cadw darpariaeth i ofalu am breswylwyr ag anghenion gofal cymhleth. Mae yna hefyd ddarpariaeth ofal gref gan y farchnad annibynnol yn Rhondda Cynon Taf.

Ai bwriad yr ymarfer yma yw lleihau costau?

Na - mewn gwirionedd, mae'r Cyngor wedi cynllunio i fuddsoddi £50 miliwn mewn Gofal Ychwanegol dros y 5-10 mlynedd nesaf er mwyn trawsnewid a moderneiddio'r ddarpariaeth, er mwyn diwallu'r angen am 300 o welyau Gofal Ychwanegol sydd eu hangen yn Rhondda Cynon Taf.

A yw'r staff yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd?

Yn sicr, bydd y Cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda staff, undebau llafur, cynhalwyr, preswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd trwy gydol y broses yma - o'r ymgynghoriad cyfredol hyd at unrhyw newidiadau posibl yn y dyfodol.

Beth fyddai'n digwydd i staff pe bai unrhyw gartref yn cau? 

Os bydd unrhyw benderfyniad yn effeithio ar staff, byddai'r Cyngor yn ymgynghori â'r staff ar wahân lle bydd gweithdrefn Rheoli Newid y Cyngor yn cael ei dilyn. Byddai adran Adnoddau Dynol y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth a'r Undebau Llafur er mwyn cefnogi staff drwy'r newidiadau ar yr adeg briodol. Mae'n bwysig nodi bod ymrwymiad wedi'i wneud i sicrhau nad yw staff yn wynebu diswyddiadau gorfodol, yn rhan o'r broses yma.

Pwy fydd yn rhedeg y cyfleusterau Gofal Ychwanegol newydd?

Bydd tri o'r cyfleusterau Gofal Ychwanegol dan ofal gweithlu profiadol presennol y Cyngor, yn ogystal â'r cartrefi gofal preswyl a fydd yn canolbwyntio ar ofalu am anghenion cymhleth. Mae adborth a gafodd ei dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol, rhwng mis Ionawr ac Ebrill 2019, gan aelodau o'r cyhoedd yn awgrymu bod trigolion eisiau i'r Cyngor barhau i arwain wrth ddarparu gofal preswyl a chyda hynny ddarparu ystod o wasanaethau ar gyfer anghenion cymhleth

Pam dydych chi ddim yn derbyn preswylwyr newydd i'r cartrefi gofal ar hyn o bryd?

Mae'r Cyngor wedi cyfyngu ar y nifer o bobl sy'n gallu symud i mewn i'n cartrefi er mwyn lleihau unrhyw effaith bosibl ar breswylwyr nes bydd y Cabinet yn ystyried canlyniadau'r ymarfer ymgynghori arfaethedig ac unrhyw benderfyniad(au) mae'n eu cymryd mewn perthynas â'r cynnig.

Ydy'r penderfyniad wedi cael ei wneud yn barod?

Dydy'r Cyngor ddim wedi penderfynu ar unrhyw ran o'r opsiwn sydd wedi'i gynnig i'w ystyried. Mae'r Cyngor wedi cychwyn ymgynghoriad eang arall. Bydd yn parhau am 12 wythnos ac yn holi staff, gofalwyr, preswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd - ynghyd â'r cyhoedd yn gyffredinol. Unwaith eto, bydd yr adborth sy'n cael ei dderbyn yn ystod y broses yma yn cael ei ystyried yn fanwl iawn cyn gwneud unrhyw benderfyniad yn y dyfodol.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer adeiladau'r cartrefi gofal sydd wedi'u cynnig ar gyfer eu cau?

Ar hyn o bryd, does gan y Cyngor ddim cynlluniau ar gyfer unrhyw un o'r safleoedd sy'n cael eu cynnig ar gyfer eu cau, gan does dim penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud ar gyfer eu dyfodol.

Beth yw'r weithdrefn - beth sy'n digwydd nesaf?

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus (a ddaeth i ben ar 20 Rhagfyr, 2019), bydd adroddiad yn cael ei ddrafftio gan Swyddogion yn amlinellu'r adborth sydd wedi'i dderbyn. Bydd y Cabinet yn ystyried yr adborth yn drylwyr cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Sut ydw i'n cael rhoi fy marn yn yr ymgynghoriad?

Mae yna nifer o ffyrdd i chi gymryd rhan - ewch i  www.rctcbc.gov.uk/ymgynghori i gael rhagor o fanylion.