Skip to main content

Cynllun arfaethedig i leihau'r ardreth fusnes leol

Er mwyn rhoi cymorth pellach i'n busnesau sydd ynghanol ein trefi ac yn y maes manwerthu ar gyfer 2020/21, rydyn ni'n cynnig cyflwyno cymorth ardreth annomestig dewisol (NDR) newydd o hyd at uchafswm o £300 ar gyfer pob busnes cymwys.  Rydyn ni'n amcangyfrif bydd 485 o fusnesau'n elwa o'r gefnogaeth ychwanegol yma.

Mae gan y Cyngor nifer o becynnau wedi'u sefydlu eisoes i gefnogi ein busnesau  manwerthu a chanol trefi gwerthfawr, ac mae'r cymorth ardreth annomestig dewisol newydd arfaethedig hwn yn hwb i fusnesau dalu eu hardrethi yn ystod 2020/21.

Bydd hyn yn ychwanegol at y cymorth arall sydd eisoes ar gael gan gynnwys cynllun cymorth ardrethi Llywodraeth Cymru ar y stryd fawr a manwerthu (HSRR).  Bydd yr un meini prawf cymhwyso â'r HSRR yn cael eu cymhwyso.

Am ragor o wybodaeth ewch i 

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Council/CouncillorsCommitteesandMeetings/Meetings/Cabinet/2019/11/21/Reports/Item8SupportingTownandRetailBusinessesinRCTLocalBusinessRateReductionScheme.pdf

Hoffen ni gael eich barn chi ar y cynnig yma. 

Ebost: consultation@rctcbc.gov.uk


Trwy lythyr:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS

Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX