Skip to main content

Cynnig I Adleoli Canalfon Oriau Dydd Alec Jones

Wrth ddatblygu Plaza'r Porth i fod yn Hwb Cymunedol, mae cynnig i symud y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yng Nghanolfan Oriau Dydd Alec Jones i'r Hwb 
Cymunedol newydd. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Oriau Dydd bresennol yn cael ei thanddefnyddio gyda chyfartaledd o 27 o brydau'n cael eu darparu bob dydd. Bydd cyfosod gwasanaethau ym Mhlaza'r Porth yn galluogi'r Cyngor i ddarparu caffi lle bydd bwyd ar gael drwy'r dydd, gan gynnwys prydau poeth.

Byddai trigolion a grwpiau cymunedol yn parhau i gael mynediad at yr ystafelloedd cyfarfod a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnig gan y Ganolfan Oriau Dydd ar hyn o bryd.

Hoffwn ni glywed eich barn am y cynnig;

Rydyn ni'n cynnal 2 achlysur galw heibio;

  • 12-2pm ddydd Gwener 16 Tachwedd yng Nghanolfan Oriau Dydd Alec Jones, y Porth.
  • 12-2pm ddydd Gwener 22 Tachwedd yng Nghanolfan Oriau Dydd Alec Jones, y Porth.
Arolwg ar-lein 

Anfonwch ebost gyda'ch sylwadau i ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Neu anfonwch lythyr aton ni.  Y cyfeiriad ydy;

RHADBOST:

RSBU-HJUK-LSSS:
Adran Materion Ymchwil ac Ymgynghori,
Y Pafiliynau, 
Cwm Clydach, CF40 2XX