Skip to main content

Ymgynghoriad ar Gŵn yn Baeddu - Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

Ar hyn o bryd rydyn ni'n ymgynghori ynghylch a ddylen ni ymestyn y Gorchymyn(ion) Diogelu Mannau Cyhoeddus ynghylch Cŵn yn Baeddu yn Rhondda Cynon Taf

Cyflwynodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar 1 Hydref 2017 mewn perthynas â mesurau rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, am gyfnod o dair blynedd.  Cyflwynodd y Cyngor hefyd Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ynghylch mesurau rheoli cŵn ym Mharc Cyhoeddus Aberdâr.

Hoffen ni glywed eich barn ynghylch ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

Mae modd gweld y gorchmynion a'r mapiau presennol yma.

Mae'r manylion yn cael eu darparu yn yr Adroddiad Cabinet ac mae crynodeb o'r ymgynghoriad ar gael yma

Mae'r ymgynghoriad yn cychwyn ar 6 Gorffennaf ac yn gorffen am 5pm ar 3 Awst 2020

Mae sawl ffordd ichi gael dweud eich dweud:

Ar-lein:

Llenwch yr holiadur ar-lein

E-bost: ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn - 01443 425014

Trwy lythyr:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX