Skip to main content

Ymgynghoriad - Gwasanaethau Gofal Oriau Dydd

Ym mis Tachwedd 2018 cafodd cynigion ar gyfer moderneiddio gwasanaethau gofal preswyl a gofal oriau dydd eu trafod gan Gabinet y Cyngor. Cytunwyd i gynnal ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ar y cynnig mae'r Cabinet yn ei ffafrio.

Mae modd dod o hyd i fanylion y cynnig yma

Mae manylion y cynigion ar gyfer gwasanaethau gofal oriau dydd wedi'u crynhoi a'u hamlinellu yn y llyfryn yma

Mae fersiwn hawdd ei ddarllen ar gael yma

Yn dilyn ymrwymiad gan y Cabinet ym mis Medi 2017, bydd buddsoddiad gwerth £50 miliwn yn cael ei wneud i Ofal Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf. Bydd hyn yn golygu bod pum cyfleuster newydd yn agor ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r ddarpariaeth newydd yma wrth wraidd cynigion y Cyngor i foderneiddio gofal ar gyfer pobl hŷn. Rhagor o wybodaeth am Ofal Ychwanegol: 

Cyfle i Ddweud eich Dweud

Mae modd i chi roi eich barn drwy arolwg ar-lein

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda staff, trigolion a pherthnasau a fydd efallai yn cael eu heffeithio gan y cynigion.  Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor yn cynnal nifer o achlysuron 'galw heibio' cyhoeddus, lle bydd modd i chi ofyn cwestiynau a rhoi eich barn.

Cyfarfodydd Galw Heibio Cyhoeddus  (2-8pm)

Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda

13/3/2019

Canolfan Chwaraeon Sobell, Aberdâr

21/3/2019

Canolfan Hamdden Llantrisant 28/3/2019

Mae hefyd modd i chi anfon ebost aton ni – GofalOriauDydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ysgrifennu aton ni

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Adran Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Os oes angen copïau papur o'r deunyddiau arnoch chi, neu os hoffech chi eu derbyn mewn fformat arall, ffoniwch ni ar 01443 425014

Mae gwasanaeth eiriolaeth ar gael os oes angen. Ffoniwch ni ar (01443) 490663.

Mae'r Ymgynghoriad yn dechrau ar 14 Ionawr 2019 a bydd yn cau am 5pm ar 8 Ebrill 2019.