Skip to main content

Ymgynghoriad ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos

Penderfynodd Cabinet y Cyngor, yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2024, gymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gynradd Hirwaun.

Bydd yn cynnig yn cael ei weithredu erbyn mis Medi 2024 fan bellaf.

Am y rhesymau a amlinellir yn y Ddogfen Ymgynghori, a gylchredwyd yn eang y llynedd, ac yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 (011/2018), mae Cabinet y Cyngor wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig.

Gellir gweld yr hysbyiad penderfynu
YMA

 

Mae'r cynnig yn ceisio rhoi'r cyfle i fwy o ddisgyblion elwa o'r buddsoddiad sylweddol a ddarperir drwy raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu LlC yng Nghwm Cynon.