Skip to main content

Ymgynghori ar y Gyllideb 2020/21

Nodwch! Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben, a bydd adroddiad ar gael yn y Flwyddyn Newydd cyn ymgynghoriad cam 2 ar strategaeth y gyllideb.
Cyfanswm cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2019/20 yw £483 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 76% o'r gyllideb hon (£367 miliwn), mae incwm Treth y Cyngor yn 23% (£112 miliwn) ac mae'r 1% sy'n weddill (£4 miliwn) yn dod o grantiau penodol a defnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor ei hun. 
Yn dilyn cyhoeddi bod yna Etholiad Cyffredinol, mae setliad Llywodraeth Cymru i Lywodraeth Leol ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i ohirio.  O ganlyniad, bydd Ymgynghoriad Cyllideb Rhondda Cynon Taf ar gyfer eleni yn broses raddol, fel y gallwn ni sicrhau bod trigolion a rhanddeiliaid yn cael cymaint o gyfle â phosibl i rannu'u barn ar y gyllideb a sicrhau bod y farn honno yn cael ei llywio gan yr wybodaeth fwyaf diweddar a pherthnasol.

Cam 1

Bydd Cam 1 yn cychwyn ddydd Iau 21 Tachwedd 2019, ac yn para tan ddydd Llun 16 Rhagfyr.  Hoffen ni gael eich barn chi ar:

  • cynnydd posibl yn Nhreth y Cyngor;
  • yr arian sy'n cael ei ddarparu i redeg gwasanaethau ar hyn o bryd;
  • pa wasanaethau y dylen ni eu blaenoriaethu ar gyfer buddsoddi;
  • cynnydd posibl mewn ffioedd a thaliadau;
  • y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor;
  • yr adnoddau sy'n cael eu dyrannu i'n hysgolion.

Mae sawl ffordd ichi gael dweud eich dweud:

Ar-lein:

Llenwch yr holiadur ar-lein 

 


Achlysuron Ymgynghori Galw Heibio - 

Achlysuron cyhoeddus sydd i'w cynnal - Y Gyllideb a'r Cynllun Corfforaethol:

DyddiadLleoliadAmser

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd

Llyfrgell Pontypridd

10am - 12pm

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd

Canolfan Hamdden Llantrisant

5pm - 7pm

Dydd Iau, 28 Tachwedd 

Llyfrgell y Porth

2pm - 4pm

Dydd Iau, 28 Tachwedd 

Hwb Glynrhedynog

10am - 12pm

Dydd Iau, 28 Tachwedd

Canolfan Hamdden Sobell

5pm - 7pm

Dydd Mercher, 4 Rhagfyr

Co-op Treorci

10.30am - 2pm

Dydd Mercher, 4 Rhagfyr

Canolfan Chwaraeon Cwm 

5pm - 7pm

Dydd Iau, 5 Rhagfyr

Llyfrgell Abercynon

2pm - 4pm

Dydd Gwener, 6 Rhagfyr

Canol Tref Aberdâr

10.30am - 2pm

Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr

Llyfrgell Hirwaun

10am - 12pm

Dydd Mercher, 11 Rhagfyr

Canol Tref Pontypridd

10.30am - 2pm

Dydd Gwener, 13 Rhagfyr

Canolfan Pennar

10am - 12pm

E-bost

ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Trwy lythyr:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS 

Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori

Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Cam 2:

Bydd y safbwyntiau rydyn ni'n derbyn yng ngham 1 yn llywio strategaeth gyllideb drafft y Cyngor. Byddwn ni'n cynnal ymgynghoriad ar y strategaeth yng ngham 2.  Rhagwelir y bydd proses Cam 2 yn digwydd ar hyn o bryd rhwng 24  Ionawr a 7 Chwefror 2020.