Mae gyda ni amrywiaeth wych o weithgareddau y mae modd i bobl eu mwynhau a chynnal eich cyfrif Credyd Cynhwysol.
- Mae ein Clybiau Gwaith yn y gymuned yn helpu pobl i chwilio am swyddi a llunio CVs a chynnal eich cyfrif Credyd Cynhwysol.
- Caiff achlysuron Dydd Gwener Digidol eu cynnal ym mhob Llyfrgell rhwng 10am a 12pm bob dydd Gwener. Mae'r achlysuron yn helpu pobl i wella'u sgiliau technoleg gwybodaeth, sy'n hanfodol yn yr oes sydd ohoni a chynnal eich cyfrif Credyd Cynhwysol.
- Caiff cyrsiau addysg i oedolion eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Mae rhywbeth at ddant pawb, o addysg hanfodol ym maes Mathemateg a Saesneg i hyfforddiant achrededig sy'n gysylltiedig â chyflogwyr, lle mae sicrwydd y cewch chi gyfweliad ar ddiwedd y cwrs.
- Hamdden am Oes - Mae gyda ni bartneriaeth â Chanolfannau Hamdden Rhondda Cynon Taf lle mae modd i gyfranogwyr fanteisio ar wasanaeth hyfforddwr personol a chael mynediad i'r gampfa pan maen nhw'n cofrestru ar y rhaglen Mentora er Newid .
- Cymorth Iechyd Meddwl - Rydyn ni'n cefnogi Camau'r Cymoedd, sy'n darparu rhaglen barhaus o hyfforddiant Rheoli Straen a Myfyrdod ledled Rhondda Cynon Taf.
.