Skip to main content

Gwybodaeth am gasgliadau bob tair wythnos

Mae arferion ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar, diolch i gynnydd yn nifer y bobl sy'n ailgylchu.

Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond 45% o'n holl wastraff a fyddai'n cael ei ailgylchu – ffigur a gynyddodd i 64% erbyn 2016/17. Erbyn hyn y ffigur yw 67.48%.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni ailgylchu 70% erbyn 2024/5.

Rhaid i ni weithredu nawr neu wynebu dirwyon sylweddol o £140,000 bob tro y byddwn ni'n methu'r targed gan 1%. A hithau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at doriadau i wasanaethau neu gael effaith fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon.

Mae angen i ni 'Wella'n GÊM Ailgylchu’ yn RhCT! Does dim modd i'r Cyngor fforddio’r dirwyon posibl yma gan Lywodraeth Cymru os dydyn ni ddim yn bwrw’r targed, ac mae’n rhaid i ni gefnogi ymdrechion Cymru i fod yn sero net erbyn 2030.

Dewch i ni fwrw'r TARGED! Dewch i wella'n GÊM Ailgylchu!Recycling-INFO

Os caiff ei wneud yn gywir, mae modd ailgylchu 80% o'r holl wastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan gartref cyffredin, gan gynnwys cewynnau, gwastraff bwyd a gwastraff gardd. Rydyn ni'n casglu'ch gwastraff ailgylchu o ymyl y ffordd yn wythnosol am ddim, neu mae modd i chi fynd ag ef i'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Dyna pam rydyn ni wedi newid amlder casglu biniau/bagiau du i unwaith bob tair wythnos. Rydyn ni o'r farn bod gosod cyfyngiad fel hyn yn rhesymol ar gyfer cartref sy'n ailgylchu'n gywir.

Os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y gallwch, mor aml ag y gallwch, fel y mae tri o bob pedwar o bobl yn RhCT yn ei wneud yn barod, yna mae'n annhebygol y bydd y cyfyngiadau newydd y casgliadau gwastraff bagiau/biniau du yn effeithio arnoch chi.

Rydyn ni'n canolbwyntio ar y rhai sy'n ailgylchu ychydig iawn neu ddim o gwbl.

Gan fod ystadegau'n dangos fod modd i 80% o'r gwastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu gartref gael ei ailgylchu, byddwn ni bellach yn cyfyngu ar nifer ein casgliadau bagiau/biniau du, er mwyn sicrhau bod pobl yn ailgylchu popeth o fewn eu gallu.

Bydd casgliadau bob tair wythnos yn dechrau ddydd Llun 3 Gorffennaf 2023 ledled Rhondda Cynon Taf.

Bydd pob cartref yn derbyn llythyr unigol sy'n cadarnhau eu dyddiad dechrau ac unrhyw newidiadau o ran y diwrnod casglu. Bydd pob preswylydd yn cael tua 4 wythnos o rybudd cyn i'r newidiadau ddod i rym (lle bydd modd).

  • Gweler y llythyr sampl - nodwch os gwelwch yn dda, mae hwn yn llythyr enghreifftiol, ni fydd newidiadau casglu biniau newydd y manylir arnynt yma yn berthnasol i bawb. I ddod o hyd i chi Diwrnodau casglu Ailgylchu a Gwastraff, defnyddiwch ein Diwrnodau Casgliad Bin

Recycling-RULES

  • Mae modd i dai â bin olwynion 240l (mawr) roi'r bin allan (caead ar gau) i'w gasglu. Fydd bagiau du ychwanegol ddim yn cael eu casglu.
  • Mae modd i dai â bin olwynion 120l (bach) roi'r bin allan i'w gasglu, ynghyd ag un bag du safonol (uchafswm o 70l). Rhaid gosod y bag ar ben y bin neu wrth ei ymyl. 
  • Yn yr un modd, bydd modd i gartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o DRI bag du safonol allan i'w casglu bob tair wythnos.
  • Byddwn ni’n dal ati i gasglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu sych, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff gardd yn bob wythnos.
  • Bydd enwau'r rheiny sy'n amlwg ddim yn ailgylchu'n gywir yn cael eu nodi o hyn ymlaen. Bydd swyddogion yn siarad â nhw i sicrhau bod ganddyn nhw'r wybodaeth a'r offer (cadis, bagiau ac ati) sydd eu hangen arnyn nhw i ailgylchu'n gywir. Os bydd cartref yn methu ag ailgylchu'n barhaus, bydd y cartref hwnnw'n cael rhybuddion, yn derbyn cyfarwyddiadau, ac yn y pen draw bydd raid defnyddio dulliau gorfodi, gan gynnwys dirwy o £100.

Targed Ailgylchu

Bydd y newidiadau yn ein helpu i gyrraedd y targed ailgylchu o 70%.Recycling-70percent

Mae modd i'r rheiny sy'n mynnu peidio ag ailgylchu wynebu dirwy o £100. Caiff dirwyon eu rhoi ar ôl cynnal ymgyrchoedd gwella ymwybyddiaeth ac ar ôl i gartref dderbyn hysbysiadau oddi wrth swyddogion gorfodi.

Bydd eithriadau i'r terfynau sydd wedi'u gosod ar wastraff bagiau du/biniau, a fydd yn cael eu diddymu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Dylai'r rheiny sydd ag amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys pobl sy’n cael gwared ar ludw nad oes modd ei ailgylchu, mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein neu, mae modd ichi ofyn am gasgliad â chymorth ar-lein.

 

Tudalennau Perthnasol