Mae Siôn Corn yn dod i dref yn eich ardal chi i rannu hwyl yr ŵyl!
Mae trefi Rhondda Cynon Taf yn barod am y Nadolig! Mae'r siopau bach unigryw yng nghanol y dref yn ogystal â'r siopau mawr i gyd yn llawn anrhegion arbennig!
Bydd ysbryd y Nadolig o'ch cwmpas chi ym mhob man eleni wrth i wyth prif dref y Fwrdeistref Sirol gynnal cyfres o achlysuron Nadoligaidd rhwng 26 Tachwedd ac 18 Rhagfyr!
Dewch i gwrdd â Siôn Corn, nôl eich anrhegion a pharatoi am y Nadolig wrth siopa'n lleol a chefnogi'ch cymuned leol.
Mae cymaint o resymau i siopa'n lleol!
- Helpwch i greu swyddi'n lleol - Busnesau bach a chanolig yw'r cyflogwr mwyaf yn genedlaethol, felly trwy siopa'n lleol, byddwch chi'n helpu i gynnal a chreu swyddi yn eich ardal leol.
- Gwariwch eich arian haeddiannol yn lleol - Mae oddeutu 63c o bob £1 sy'n cael ei wario mewn busnesau bach neu ganolig yn aros yn yr economi leol, o'i gymharu â dim ond 40c mewn busnesau mawr. Trwy siopa'n lleol, mae'ch arian chi'n mynd yn syth i'ch pentref neu'ch tref chi, ac felly'n ei helpu i ffynnu.
Parcio dros gyfnod y Nadolig eleni
- Mae parcio yn parhau i fod AM DDIM yn RhCT ym mhob Maes Parcio sy'n eiddo i'r Cyngor, heblaw am Bontypridd ac Aberdâr.
- Mae parcio'n parhau i fod AM DDIM ym mhob Maes Parcio ym Mhontypridd ac Aberdâr ar ôl 3pm yn ystod yr wythnos ac ar ôl 10am ar ddydd Sadwrn.
Treuliwch drwy'r dydd yn siopa os mynnwch chi - mae PARCIO AM DDIM...
O 1 tan 31 Rhagfyr: Mae parcio AM DDIM ym MHOB Maes Parcio yn RhCT sy'n eiddo i'r Cyngor trwy'r dydd, bob dydd ar ôl 10am, gan gynnwys Pontypridd ac Aberdâr.
Mae gan Siôn Corn amserlen brysur iawn eleni!
Tybed pryd bydd e'n dod i ganol tref sy'n agos i chi?
Sample Table
Ble | Pryd | Amser |
Llyfrgell Aberdâr |
FDydd Gwener 26 Tachwedd |
3pm - 6.30pm |
Dydd Sadwrn 27 Tachwedd |
10am - 4pm |
Neuadd y Dref, Llantrisant |
Dydd Sadwrn 27 Tachwedd |
10am - 4pm |
Canolfan Pennar, Aberpennar |
Dydd Gwener 3 Rhagfyr |
3pm - 6.30pm |
Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr |
10am - 4pm |
Llyfrgell Tonypandy |
Dydd Gwener 3 Rhagfyr |
3pm - 6:30pm |
Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr |
10am - 4pm |
Clwb Bechgyn a Merched Treorci |
Dydd Gwener 10 Rhagfyr |
4pm - 7:30pm |
Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr |
10am - 4pm |
Plaza Porth |
Dydd Gwener 10 Rhagfyr |
3pm - 6:30pm |
Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr |
10am - 4pm |
Llys Cadwyn, Pontypridd |
Dydd Gwener 17 Rhagfyr |
3pm - 6:30pm |
Partneriaeth Fern, Glynrhedynog |
Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr |
10am - 4pm |
I gael rhagor o wybodaeth am Achlysuron Nadolig Rhondda Cynon Taf, ewch i dudalennau Croeso RhCT y Cyngor, neu dilynwch dudalennau'r Cyngor ar facebook a twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.