Skip to main content

Bro-garwyr Tra Mad - Ceisiadau ac Enwebiadau

Mae gwneud cais am un o’n Gwobrau ‘Bro-garwyr Tra Mad’ yn hawdd. Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen gais fer, gan ddangos yr effaith rydych chi wedi ei chael ar eich ysgol neu gymuned
Llenwch y ffurflen gais/enwebu ar gyfer y gwobrau Bro-garwyr Tra Mad ar-lein nawr!
Gwasanaethau Gofal y Strydoedd

C.B.S. Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf, Uned B23, Taffs Fall Road,
Ystad Ddiwydiannol Trefforest,
Trefforest,
CF37 5TT

Ffôn: 01443 827364

Beirniadu

Bydd panel annibynnol yn beirniadu’r ceisiadau. Byddwn ni'n ymweld â phawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ystod mis Mai, cyn i enillydd pob categori gael ei gyhoeddi. Bydd y gwobrau yn mynd i'r bobl hynny sy'n gallu arddangos yr effaith ar eu hysgol neu'u cymuned.

Mae'r 7 categori ar gyfer Bro-garwyr Tra Mad fel a ganlyn:

Ffurflenni Cais (PDF)

  1. Hyrwyddwr Amgylcheddol yn y Gymuned - Mae’r wobr yma’n cydnabod ac yn gwobrwyo’r person sydd wedi annog pobl i leihau eu heffaith amgylcheddol nhw ar y gymuned neu sydd wedi gwella'r ailgylchu yn ei gymuned.
  2. Y Prosiect Amgylcheddol Mwyaf Arloesol - Mae’r wobr yma ar gyfer prosiect sydd wedi defnyddio dull arloesol i wella’r amgylchedd ac sy’n gallu dangos bod y prosiect wedi bod yn llesol i’r amgylchedd a’r gymuned.
  3. Yr Ymgyrch Amgylcheddol Orau mewn Ysgol - Mae'r wobr yma'n cydnabod cyflawniadau ysgol sy'n gallu dangos bod ei phrosiect wedi cael effaith fanteisiol ar yr ysgol, yr amgylchedd ac ar y gymuned o'i chwmpas.
  4. Y Gymuned Fwyaf Taclus / Y Prosiect Cymunedol Gorau - Mae'r wobr yma'n cydnabod cyflawniadau grŵp cymunedol (neu gymuned) sydd wedi ymfalchïo yn ei ardal ac sy'n gallu dangos bod ei brosiectau wedi cael effaith fanteisiol ar yr amgylchedd a'r gymuned.
  5. Tîm yr Awdurdod Lleol y Flwyddyn - Mae’r wobr yma’n cydnabod ymroddiad a lefel uchel y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan garfan o’r awdurdod lleol mewn unrhyw faes sy’n ymwneud â’r amgylchedd.
  6. Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Disgybl) - Mae’r wobr yma’n cydnabod cyflawniadau person ifanc sydd wedi gwella’r amgylchedd yn ei ysgol.
  7. Hyrwyddwr Amgylcheddol Ysgol (Athro) - Mae’r wobr yma’n cydnabod cyflawniadau athro sydd wedi symud agenda amgylcheddol yr ysgol yn ei blaen.