Skip to main content

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr

Covenant LogoMae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf.  Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

Veterans Advice Service LaunchMae nifer o sefydliadau sy'n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog, felly mae dod o hyd i'r sefydliad cywir yn gallu bod yn gymhleth. Bwriad Gwasanaeth Cymorth i Gyn-filwyr Rhondda Cynon Taf  yw gwneud y broses yma mor hawdd â phosibl. Byddwn ni'n eich atgyfeirio chi at y sefydliad mwyaf addas er mwyn i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

P'un ai ydych chi’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd, neu wedi gwasanaethu yn y gorffennol, cewch chi a'ch teulu fanteisio ar ein gwasanaeth am gyngor a chymorth.

Swyddog Cyngor i Gyn-filwyr 

Ffôn: 07747485619 (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am tan 5pm)