Skip to main content

Terfynau cyflymder diofyn o 20mya – Ffyrdd Cyfyngedig Cymru

20mph-Web-Banner---children-walking---800x900-bilingual

Cyhoeddodd y Cyngor ei hysbysiad gweithredu ddydd Llun 11 Medi. Bydd Gorchymyn (Strydoedd a Ffyrdd Amrywiol yn Rhondda Cynon Taf) (Dirymu, Amrywio a Therfyn Cyflymder) 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf  yn dod i rym ar y cyd â 'Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022' ar 17 Medi 2023. Mae modd bwrw golwg ar gopïau o'r Hysbysiad a’r Cynlluniau drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Hysbysiad Gweithredu
Darluniau’r Ymgynghoriad

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi pasio 'Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022' ar 13 Chwefror 2022, ddaeth i rym ar 17 Medi 2023. Roedd yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru roi’r fenter yma gan Lywodraeth Cymru ar waith. 

Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth wedi cael effaith fawr ar rwydwaith priffyrdd yr awdurdod lleol. Mae'r terfyn cyflymder yn y rhan fwyaf o'n strydoedd sydd â therfyn cyflymder wedi cael ei leihau i 20 MYA (os oes goleuadau stryd ar y ffordd).

Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y dudalen yma wrth i'r cynllun ddatblygu.

Ar ba gam ydyn ni ar hyn o bryd?

Cyhoeddodd y Cyngor ei 'Hysbysiad Gweithredu' ar gyfer GORCHYMYN CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF (STRYDOEDD A FFYRDD AMRYWIOL YN RHONDDA CYNON TAF) (DIRYMU, AMRYWIO A THERFYN CYFLYMDER) 2023 ddydd Llun 11 Medi 2023. Caiff unrhyw berson wneud cais i'r Uchel Lys at ddibenion cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth ynddo, ar y sail nad yw'n unol â'r pwerau o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail nad yw'n cydymffurfio â gofyniad yn y Ddeddf honno neu ag offeryn sydd wedi'i wneud o dani mewn perthynas â'r Gorchymyn, os yw'n dymuno gwneud hynny. Rhaid gwneud hynny o fewn chwe wythnos i 17 Medi 2023.

Dweud eich dweud

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am hwyluso'r newid i'r rhwydwaith priffyrdd yn sgil cyflwyno'r ddeddfwriaeth yma. Llywodraeth Cymru sy'n llywio ac yn ariannu'r cynllun yn gyffredinol ac felly dylech chi godi unrhyw bryderon yn uniongyrchol gydag ef:  

Nodwch y bydd elfennau o'r rhwydwaith priffyrdd yn gwyro o'r safonau sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru a bydd preswylwyr yr ardaloedd hynny sy'n cael eu heffeithio yn derbyn gohebiaeth ysgrifenedig ar wahân yn rhan o'r broses gyfreithiol statudol. 

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon lleol ynghylch egwyddor y fenter, cysylltwch â ni drwy'r ddolen ganlynol: cyswllt

neu fel arall gallwch e-bostio eich pryderon i  20mya@rctcbc.gov.uk.

Ymgynghoriadau

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadw'r terfyn cyflymder 30mya ar sawl ffordd ledled y fwrdeistref sirol lle'r oedd yn ymddangos yn angenrheidiol i wneud eithriadau yn unol â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig) i derfyn cyflymder diofyn 20mya Llywodraeth Cymru, gan roi canllawiau wedi'u cymeradwyo ar waith a dilyn proses statudol gyfreithiol.

Mae'r Awdurdod yn delio gyda'r holl faterion cysylltiedig â rhoi'r cynllun 20mya ar waith ar hyn o bryd a ni fyddwn ni'n ymateb i geisiadau nad ydyn nhw'n rhai brys tra bo'r cynllun yn ei gyfnod ymsefydlu.

Er gwaethaf yr uchod, does dim cyllid ar gael er mwyn cynnal unrhyw newidiadau ar unwaith i'r cynllun 20mya, a dydyn ni ddim wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru os bydd unrhyw gyllid grant ar gael y flwyddyn nesaf er mwyn ystyried unrhyw newidiadau.

Eitemau Newyddion