Mae straen yn adwaith naturiol pan rydyn ni'n teimlo dan bwysau neu dan fygythiad. Mae modd i straen ddigwydd o ganlyniad i lawer o ffactorau, gan gynnwys perthnasoedd rhyngbersonol a phwysau gwaith, pwysau ariannol neu bwysau yn y cartref. Bydd straen yn teimlo'n wahanol i bob person, ond mae modd iddo effeithio ar ein hiechyd corfforol a'n hiechyd meddwl, a gallai arwain at broblemau megis diffyg cwsg, hwyliau isel, doluriau a phoenau. Dyma pam byddwn ni'n cynnal ein gweithdy rhithwir Dewch i ni Siarad am Straen.
Nod y sesiwn fydd codi ymwybyddiaeth am straen a chydnerthedd ac ymchwilio’n ddyfnach i ystyr y termau hyn a’r theori o’u cwmpas. Yna byddwn ni'n edrych ar sut i feithrin cydnerthedd a rheoli straen ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda nhw.