Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Swyddi hynod lwyddiannus y mis yma.
Bydd amrywiaeth enfawr o ddarpar gyflogwyr wrth law i gwrdd â chi. Gall y rhai sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella'u haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ystod yr achlysur.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn adeilad Llys Cadwyn ym Mhontypridd ddydd Mercher, 13 Mawrth 2024. Bydd ar agor o 10.00am tan 2.00pm i aelodau'r cyhoedd. Yn ogystal â hynny, bydd awr dawel o 9.00am ar gyfer unigolion sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig neu anableddau eraill.
Bydd yr achlysur yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, sydd i gyd yn ceisio hyrwyddo a rhannu eu gyrfaoedd a'u cyfleoedd hyfforddi.
Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar ein Cynllun Prentisiaethau a gwneud cais am swydd, ac argymhellion defnyddiol o ran mynychu cyfweliadau.
Mae'r arddangoswyr canlynol wedi cadarnhau byddan nhw'n dod:
AbaCare
|
ACT
|
Alcumus
|
ALS
|
Apollo Teaching
|
Arc Rail
|
Busnes mewn Ffocws
|
Busnes yn y Gymuned
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
|
Canolfan Byd Gwaith
|
Canolfan Byw Annibynnol 'Dewis'
|
Carfan Recriwtio RhCT
|
Cartrefi
|
Coleg y Cymoedd
|
Cymunedau am Waith a Mwy
|
Cyngor y Gweithlu Addysg
|
Drive
|
Dŵr Cymru
|
EE
|
Gofal Bluebird Care
|
Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
|
Gwasanaethau i Blant RhCT (Preswyl)
|
Gwasanaethau i Oedolion RhCT (Preswyl)
|
Gwesty'r Heritage Park
|
Gyrfa Cymru
|
Hafod
|
Innovate Trust
|
Interlink ac Innovate
|
ITEC
|
Knights Brown
|
Linc Cymru
|
Morgan Sindall
|
MPS Industrial
|
New Directions
|
Prichard’s
|
Princes Trust
|
Radis
|
Rhwydwaith 75
|
RTS Tree Specialist
|
Rubicon
|
Screen Alliance Cymru
|
Serenity Care
|
Stori Cymru
|
Teacher Active
|
Thrive Group Wales
|
Trivallis
|
TT Electronics
|
Tŷ'r Cwmnïau
|
Undeb Rygbi Cymru
|
Willis Construction
|
Y Fyddin Wrth Gefn
|
Y Gwarchodlu Cymreig
|
Y Llynges Frenhinol
|
Yr Awyrlu Brenhinol
|
Zurich Insurance Ltd
|
**Mae'n bosibl bydd arddangoswyr gwahanol yno ar y diwrnod**