**Mae tocynnau ar gyfer Picnic y Tedis i gyd wedi'u gwerthu erbyn hyn. Does dim tocynnau ar gael ar y diwrnod felly plis peidiwch â galw heibio os nad ydych chi wedi archebu. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld pawb sydd â thocynnau ar 23 Mehefin!**
Mae Picnic y Tedis yn berffaith ar gyfer plant dan 5 oed, eu rhieni a’u cynhalwyr. Dewch i ddysgu rhagor am y cyfleoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael i blant a theuluoedd yn Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys sut mae Gwasanaeth y Llyfrgelloedd yn ysbrydoli darllenwyr y dyfodol, sut i fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant a gofal iechyd, a llawer yn rhagor.
Mae'r holl stondinau yn cynnig gwybodaeth sy’n berthnasol i deuluoedd a chynhalwyr sydd â phlant dan 5 oed. Bydd gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol er mwyn i chi gael blas ar y gwaith maen nhw'n ei wneud.
Mynediad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Wedi'i noddi gan Nathaniel Cars