Skip to main content

Cegaid o Fwyd Cymru

 
 
Lleoliad
Ynysangharad War Memorial Park
Date(s)
Dydd Sadwrn 5 - Dydd Sul 6 Awst 2023
Cyswllt
events@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
Big Bite 2022-139

**Newyddion gwych!  Bydd y Big Welsh Bite ar agor ddydd Sul 6 Awst. Bydd gatiau'n agor am 11am a gofynnwn i aelodau o'r cyhoedd beidio â chyrraedd cyn hynny gan y bydd y tîm ar y safle o 7am yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol. Mae ein masnachwyr i gyd yn barod i fynd, dewch i fwynhau!**

 

Mae gŵyl Cegaid o Fwyd Cymru yn dychwelyd yn 2023 ac mae'n fwy nag erioed!

Mae'r achlysur poblogaidd yma'n dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd ar 5 a 6 Awst, 11am - 5pm gyda dros 50 o stondinau, adloniant am ddim gan gynnwys arddangosfeydd coginio byw gyda chogyddion lleol, gardd gwrw a llawer yn rhagor!

Eleni, mae mwy o reswm i ddathlu gan fod y parc yn dathlu ei ganmlwyddiant ar 6 Awst. Bydd Côr Meibion Pontypridd, Côr Cymuned Pontypridd a Sound of Wales Acapella i gyd yn perfformio yn safle’r seindorf. Bydd gweithgareddau am ddim eraill ar gael gan gynnwys teithiau cerdded treftadaeth gyda thywyswyr a gweithgareddau chwaraeon ac archaeoleg gyda Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor.  

Mynediad am ddim. I weld y newyddion diweddaraf ewch i www.cegaidofwydcymru.co.uk a dilynwch @whatsonrct ar Facebook, Trydar ac Instagram.

Wedi'i noddi gan Nathaniel Cars