Skip to main content

Ogof Sion Corn

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park
Date(s)
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd - Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr 2022
Disgrifiad
RHP-Santas-Toy-Mine-logo

Mae Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer 2022.

Caiff yr achlysur poblogaidd ei gynnal rhwng 19 Tachwedd a 24 Rhagfyr, gan roi cyfle i ymwelwyr fwynhau taith a phrofiad Nadoligaidd a chwrdd â Siôn Corn ei hun!

Yn ogystal â thaith hudol yn llawn pethau Nadoligaidd annisgwyl, bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithgareddau â thema a fydd yn cael eu cynnal mewn cabanau pren bach ledled y safle.

Bydd siop Nadolig ar agor er mwyn i chi ddewis yr anrheg berffaith neu ddanteithion blasus. Bydd y Chocolate House a Craft of Hearts hefyd yn cynnig gweithdai a sesiynau lle cewch wneud eich danteithion siocled eich hun neu fod yn greadigol!

Mae tocynnau ar gyfer Ogof Siôn Corn ar werth nawr ac mae modd eu prynu ar-lein yma. 

Mae modd i ysgolion a grwpiau gadw lleoedd drwy ffonio’r dderbynfa ar 01443 682036.

Bydd tocynnau yn costio £11 y person neu £3 i fabanod 18 mis oed ac yn iau.

Ogof Sion Corn 2022 gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.