Skip to main content

Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig 2024

 

Etholiad Cyffredinol nesaf y DU yw 4 Gorffennaf 2024

Mae Senedd y DU yn cynrychioli pobl y Deyrnas Unedig. Mae'n gwneud penderfyniadau ac yn pasio deddfau ar ystod eang o faterion sy'n effeithio arnoch chi.

Mewn etholiad cyffredinol, mae gyda chi un bleidlais i ddewis ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn dilyn yr adolygiad o etholaethau seneddol a gwblhawyd gan Gomisiwn Ffiniau i Gymru yn 2023, yr etholaethau newydd y mae Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol amdanyn nhw yw

Bydd yr etholaeth y byddwch chi'n pleidleisio ynddi yn cael ei rhestru ar eich cerdyn pleidleisio.

Pwy sy'n cael pleidleisio?

Er mwyn pleidleisio yn Etholiad Cyffredinol y DU, rhaid i chi fod:

  • Wedi'ch cofrestru i bleidleisio Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru
  • Yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad - 4 Gorffennaf 2024
  • Yn Ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu'r Gymanwlad

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos, dydd Mawrth 18 Mehefin 2024.

Eisoes wedi cofrestru? Byddwch chi'n derbyn eich cerdyn pleidleisio ddechrau mis Mehefin.

Os ydych chi fel arfer yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, bydd eich cerdyn pleidleisio yn dweud wrthoch chi ble i bleidleisio a pha amseroedd y mae'r orsaf bleidleisio ar agor ar gyfer bleidleisio. ​ Mae modd i chi hefyd chwilio ble mae eich gorsaf bleidleisio ar y dudalen gwybodaeth gorsafoedd pleidleisio.

Does dim eisiau ichi fynd â'r cerdyn pleidleisio gyda chi i fwrw pleidlais.

Rhif adnabod y pleidleiswr

Mae bellach yn ofynnol cyflwyno cerdyn adnabod â llun sy’n dderbyniol wrth bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DU.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y mathau derbyniol o gardiau adnabod ewch i'n tudalen ID Pleidleisiwr

Pleidleisio drwy'r post

Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad yma, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r bost, neu ganslo neu ddiwygio pleidlais drwy'r post bresennol yn yr etholiad yma yw 5pm 19 Mehefin. ​

 ​

Rheolau newydd ar gyfer trin pleidleisiau drwy'r post

Mae rheolau newydd wedi’u cyflwyno ynghylch trin pleidleisiau drwy'r post:

  • ydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y mae modd i berson eu cyflwyno.
  • Os byddwch yn colli’r post, gallwch gyflwyno eich pleidlais bost eich hun a/neu bleidleisiau post pobl eraill yn unig yn Gwasanaethau Etholiadau yn ystod oriau swyddfa, neu mewn unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal bleidleisio.
  • bydd dim hawl i chi gyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr eraill ynghyd â’ch pecyn chi (cyfanswm o 6)
  • os bydd person yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr eraill, bydd yr holl bleidleisiau post (ac eithrio eu rhai nhw) yn cael eu gwrthod
  • bydd angen i unrhyw un sy’n cyflwyno pleidleisiau drwy'r post lenwi ffurflen ‘dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy’r post’
  • does dim modd i ni dderbyn pleidleisiau drwy'r post a adawyd yn y blwch llythyrau unrhyw swyddfeydd y Cyngor bellach
  • bydd unrhyw bleidleisiau drwy'r post sy’n cael eu gadael yn unrhyw un arall o adeiladau’r Cyngor yn cael ei gwrthod
  • rydyn ni'n argymell bod pleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd atom drwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosibl cyn y diwrnod pleidleisio.​

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os hoffech chi i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad yma, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm 26 Mehefin.

Ar ôl 5pm ar 26 Mehefin, os byddwch chi'n methu â phleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio, oherwydd rhesymau meddygol neu waith, efallai y bydd gyda chi hawl i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys. ​

Cysylltwch â'r garfan Gwasanaethau Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr ac Asiantau

Bydd pecynnau enwebu ar gael o gyhoeddi'r Hysbysiad Etholiad. Byddan nhw ar gael yma:

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hysbysiadau etholiad

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol.