Skip to main content

Adolygiad Cymunedau Rhondda Cynon Taf 2024

Mae'r Cyngor wrthi'n cynnal Adolygiad Cymunedau mewn perthynas ag ardal Prif Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bawb sydd â diddordeb ystyried y ffiniau cymunedol presennol a chyflwyno eu barn ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraethu effeithiol a chyfleus ar lefel leol.

Bydd yr holl sylwadau'n cael eu trafod a byddwn ni'n cyhoeddi Adroddiad Cynigion Drafft ac yn cynnal ymgynghoriad mewn perthynas â’r cynigion hynny. Bydd yr holl sylwadau'n cael eu trafod a byddwn ni'n cyflwyno Argymhellion Terfynol i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yna, os yw'n briodol, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi'r argymhellion yma ar waith, naill ai fel y'u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau.

Bydd y cyfnod ymgynghori cychwynnol yn dechrau ar 15 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 30 Awst 2024.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma, anfonwch eich sylwadau drwy'r dulliau canlynol:

E-bost: AdolygiadCymunedau@rctcbc.gov.uk

Drwy'r post: Gwasanaethau Etholiadol, 10-12 Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2BW

Byddwn ni ond yn gallu ystyried sylwadau sy’n cael eu cyflwyno yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad. Nodwch y byddwn ni'n cyhoeddi pob sylw sy’n cael ei chyflwyno yn llawn. Bydd manylion personol sydd wedi’u nodi ar sylwadau sydd wedi'u derbyn gan aelodau'r cyhoedd yn cael eu cuddio, a bydd modd gweld enwau ar sylwadau sy’n cael eu cyflwyno gan unigolion yn rhinwedd eu swyddi.

Cliciwch yma i weld Canllawiau Arolygon Cymunedol y Comisiwn sydd wedi'u diweddaru a Chanllawiau Hawdd eu Darllen.


Hoffech chi wybod rhagor am gymunedau? Gwyliwch y fideo yma.

Mae modd cyrchu a lawrlwytho dogfennau'n ymwneud â cham cychwynnol yr adolygiad o'r dudalen Amserlen a Dogfennau, gan gynnwys a tabl â manylion y trefniadau yma a mapiau o bob cymuned.
Single-integrated-plan
Bwriwch olwg ar yr amserlen adolygu a'r dogfennau ategol.