Does dim rhaid i chi gyfyngu eich sylwadau i faterion ynghylch newid y cynigion. Mae croeso i chi hefyd fynegi eich cefnogaeth i'r trefniadau presennol.
Rhowch gymaint o wybodaeth berthnasol ag y gallwch chi am eich dosbarth etholiadol, man pleidleisio a gorsaf bleidleisio gan gynnwys pa mor gyfleus / anghyfleus mae'r lleoliad mewn perthynas â ble rydych chi'n byw.
Sylwadau i'w cynnwys:
- a oes mannau parcio digonol,
- ydy'r orsaf yn hygyrch i bobl anabl a defnyddwyr cadeiriau olwyn a
- pha mor addas yn gyffredinol yw'r orsaf ar gyfer pleidleisio.
Nodwch hefyd a oes unrhyw leoedd eraill sy'n addas i'w defnyddio.
Rhaid i bob sylw ddod i law erbyn 17 Tachwedd 2023.
Eich barn am yr adolygiad o ' r pleidleisio
Fel arall, anfonwch e-bost: GwasanaethauEtholiadau@rctcbc.gov.uk neu anfon eich sylwadau ysgrifenedig i'r cyfeiriad yma:
Gwasanaethau Etholiadol
10-12 Heol Gelliwastad
Pontypridd, CF37 2BW