Skip to main content

Electoral register - frequently asked questions

Cwestiynau Cyffredin

 

Sut rydw i'n ychwanegu neu ddileu manylion sy'n ymddangos yn y Gofrestr Agored (y Gofrestr Olygedig)?

Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y gofrestr etholwyr a'r gofrestr agored (neu'r gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol, er enghraifft, er mwyn sicrhau mai dim ond pobl gymwys sydd yn cael pleidleisio. Mae hi hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig wedi'u pennu gan y gyfraith, megis darganfod trosedd (e.e. twyll), galw ar bobl i wasanaethu ar reithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Mae'r gofrestr agored yn cael ei thynnu o'r gofrestr etholwyr, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae modd iddi hi gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau. 

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod chi'n gofyn i ni eu tynnu nhw oddi arni hi. Fydd dileu'ch manylion o'r gofrestr agored ddim yn effeithio ar eich hawl i fwrw pleidlais. Hefyd fe gewch chi newid eich dewis ar unrhyw adeg drwy wneud cais i staff cofrestru etholwyr lleol. Anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad atyn nhw gan nodi p'un ai ydych chi eisiau cael eich cynnwys ar y gofrestr agored neu'ch dileu oddi arni. Mae modd i chi wneud hyn yn ysgrifenedig neu dros y ffôn drwy ffonio 01443 490100. Nodwch: Byddwn ni hefyd yn ysgrifennu atoch i gadarnhau unrhyw newid.

Beth yw'r gofrestr agored (neu'r gofrestr olygedig)?

Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd, mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr – y gofrestr etholwyr a'r gofrestr agored (neu'r gofrestr olygedig).

Mae'r gofrestr etholwyr yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i fwrw pleidlais mewn etholiadau cyhoeddus. Mae'r gofrestr yn cael ei defnyddio at ddibenion 

etholiadol, er enghraifft, er mwyn sicrhau mai dim ond pobl gymwys sydd yn cael pleidleisio. Mae hi hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfyngedig wedi'u pennu gan y gyfraith, megis darganfod trosedd (e.e. twyll), galw ar bobl i wasanaethu ar reithgor, a gwirio ceisiadau credyd.

Mae'r gofrestr agored yn cael ei thynnu o'r gofrestr etholwyr, ond dydy hi ddim yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau. Mae modd iddi hi gael ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, mae'n cael ei defnyddio gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enwau a chyfeiriadau.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored oni bai eich bod chi'n gofyn i ni eu tynnu nhw oddi arni hi. Fydd dileu'ch manylion o'r gofrestr agored ddim yn effeithio ar eich hawl i fwrw pleidlais.

Sut rydw i'n dod o hyd i fy rhif Yswiriant Gwladol?

Mae rhifau Yswiriant Gwladol yn cael eu defnyddio gan y llywodraeth fel cyfeirnodau. Y ffordd fwyaf hawdd i ddod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol 

yw trwy edrych ar waith papur swyddogol, er enghraifft, eich cerdyn Yswiriant Gwladol, cyfloglenni neu lythyron oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae modd i fyfyrwyr ddod o hyd i'r rhif yn eu manylion cofrestru ar gyfer y brifysgol neu yn eu cais am fenthyciad i fyfyrwyr. Os ydych chi'n dal i fethu dod o hyd iddo, mae modd i chi ddefnyddio gwasanaeth ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn www.gov.uk/lost-national-insurance-number (Saesneg).

  • Os nad oes gyda chi fynediad i’r Rhyngrwyd, ffoniwch y llinell gymorth Yswiriant Gwladol ar 0300 200 3502.
  • Ar gyfer ymholiadau yn yr iaith Gymraeg, rhif llinell gymorth Cofrestriadau Yswiriant Gwladol yw 0300 200 1900

Cofiwch fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddim yn rhoi'ch rhif Yswiriant Gwladol dros y ffôn; yn hytrach, byddan nhw'n ei anfon drwy'r post.

Fel arall, fe gewch chi ysgrifennu i:

HM Revenue & Customs

National Insurance Contributions & Employer Office,
National Insurance Registrations
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ

Bydd gan y rhan fwyaf o bobl yn y Deyrnas Unedig rif Yswiriant Gwladol. Os does dim un gyda chi, bydd rhaid i chi esbonio pam nad oes modd i chi ei ddarparu. Efallai y bydd staff cofrestru etholwyr lleol yn cysylltu â chi i ofyn am brawf hunaniaeth.         
                           
Tudalennau Perthnasol