Skip to main content

Pleidlais trwy'r post

Os does dim modd i chi gyrraedd eich gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, mae modd i chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Mae hawl gydag unrhyw un sy ar y Gofrestr Etholiadol i wneud cais am bleidlais drwy'r post. 

Mae modd i chi wneud cais am bleidlais drwy'r post ar-lein neu gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol ar 01443 490100 er mwyn i ffurflen gais gael ei anfon atoch chi.

Gwneud cais am bleidlais drwy'r post

Ar y ffurflen rhaid i chi nodi:

  • Dyddiad(au) yr etholiad rydych chi eisiau pleidlais drwy'r post ar ei gyfer a pha fath o etholiad yw e.
  • Y cyfeiriad llawn y dylid anfon eich papur pleidleisio iddo a,
  • Darparu eich llofnod a'ch dyddiad geni.Hwn fydd eich dynodwr personol a gaiff ei wirio'n electronig yn erbyn eich pleidlais drwy'r post i atal twyll mewn etholiad

Os ydych chi wedi gwneud cais am bleidlais drwy'r post, a bod eich cais yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael papur pleidleisio drwy'r post tua wythnos cyn y diwrnod pleidleisio. Rhaid ichi bostio’r papur (neu fynd ag ef) i'r cyfeiriad sydd wedi'i nodi fel ei bod yn cyrraedd y Swyddog Canlyniadau erbyn 10.00pm ar y diwrnod pleidleisio. Fel arall, mae modd ichi alw heibio i’ch gorsaf bleidleisio yn eich etholaeth gyda’ch pleidlais drwy'r post hefyd.

Anfonwch eich ffurflenni cais aton ni yn y cyfeiriad isod:-

Swyddog Cofrestru Etholiadol

10-12 Heol Gelliwastad

Pontypridd

CF37 2BW

Gwifren Gymorth Gwasanaethau Etholiadol 01443 490100.