Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn rhaglen y cytunwyd arni yn 2016 rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru i greu twf economaidd sylweddol yn y rhanbarth drwy fuddsoddi, uwchsgilio, a chreu gwell cysylltedd ffisegol a digidol.
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDPRC) yn Gyd-Bwyllgor o bob un o ddeg Awdurdod Lleol De Ddwyrain Cymru ac fe'i sefydlwyd er mwyn goruchwylio a chydlynu cyflawni rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig. Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys un Aelod anweithredol o bob Awdurdod Penodi.
Beth yw Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR)?
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhaglen ar gyfer cyflymu twf drwy gynyddu hyd yr eithaf ar fuddsoddiad sylweddol gan y llywodraeth fel nod hirdymor i wella amgylchiadau economaidd yn Ne-ddwyrain Cymru. Gellir crynhoi amcanion penodol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel:
- gwella cynhyrchiant a chysylltedd;
- creu 25,000 o swyddi yn ei hoes 20 mlynedd;
- adeiladu ar sylfeini arloesedd;
- buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol;
- darparu cymorth i fusnesau;
- sicrhau y caiff unrhyw fuddion economaidd eu teimlo ledled y rhanbarth;
- trosoli o leiaf £4 biliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat.
Un o brosiectau craidd y Fargen Ddinesig yw darparu Metro De Cymru integredig.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i ffurfio o ardal sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae’r awdurdodau lleol hyn wedi ffurfio strwythur llywodraethu rhanbarthol sy’n rheoli’r Fargen Ddinesig.
Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cyfarfod i fonitro cynnydd prosiect (BDPRC) yn erbyn ei gynllun Rhaglen a gwneud adroddiadau ac argymhellion i'r Cabinet Rhanbarthol a / neu i unrhyw un o'r Awdurdodau Penodi ac i unrhyw un o'u gweithredwyr mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi'i dirprwyo i'r Cabinet Rhanbarthol yn unol â'r Cytundeb Cydweithio. Mae'r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn. Ers dechrau pandemig COVID 19, mae cyfarfodydd y Cydbwyllgor yn digwydd ar-lein.
Cylch Gorchwyl Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargan Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Aelodau’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu
Blaen-raglen Waith y Cydbwyllgor
Cyfarfodydd blaenorol y Cydbwyllgor