Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf yn cael ei chynnal gan yr Awdurdod Lleol ac yn darparu addysg ynghylch bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau haf yr ysgol. 


2. 
Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am rieni/gwarcheidwaid a disgyblion sy'n dymuno mynychu'r Rhagen Gwella Gwyliau'r Haf

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw ac yn eu prosesu am rieni/gwarcheidwaid fel arfer yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif cyswllt a chyfeiriad e-bost.
  • Adborth dienw os ydyn ni wedi derbyn caniatâd ar wahân i wneud hynny.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu am ddisgybl fel arfer yn cynnwys:

  • Enw, oedran, cyfeiriad (os yw'n wahanol) dyddiad geni, yr ysgol gyfredol maen nhw'n ei mynychu ac unrhyw anghenion meddygol ac addysgu ychwanegol sy'n berthnasol.


3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Caiff yr wybodaeth sydd wedi'i rhestru uchod ei chasglu gan y rhieni/gwarcheidwaid sy'n gwneud cais am le ar y Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf.


4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth uchod am y rhesymau canlynol:

  • i gysylltu â'r rhieni/gwarcheidwaid lle bo hynny'n briodol (manylion cyswllt)
  • i gysylltu â'r ysgol i ddarparu'r rhaglen fwyaf priodol i'r disgybl (gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol a gwybodaeth feddygol berthnasol) 
  • i ddefnyddio adborth dienw i werthuso'r rhaglen a'n galluogi ni i wella unrhyw gynlluniau yn y dyfodol (os ydyn ni wedi cael caniatâd ar wahân i wneud hynny)


5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Byddwn ni ond yn prosesu'ch gwybodaeth os ydyn ni wedi derbyn caniatâd rhieni/gwarcheidwaid i wneud hynny. Mae modd tynnu'r caniatâd yma'n ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni (gweler adran 9).


6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Yr Ysgol i ddarparu'r rhaglen.

7. Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yma trwy gydol y rhaglen ac yna caiff ei dileu'n ddiogel.


8. Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu pe hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

  • Ebost: cymorthilywodraethwyr@rctcbc.gov.uk
  • Drwy ffonio: 01443 444586
  • Drwy anfon llythyr: Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, Tŷ Trevithick, Abercynon, CF45 4UQ