Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Datblygu Gofal Plant

 

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Datblygu Gofal Plant.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Datblygu Gofal Plant.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Datblygu Gofal Plant.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru yn rheolwr gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.


Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Datblygu Gofal Plant:

Drwy e-bostio: CarfanGofalPlant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 570048

Drwy'r post: Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Menter y Cymoedd, Parc Hen Lofa'r Navigation, Abercynon CF45 4SN

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Garfan Datblygu Gofal Plant yn rhoi cyngor, cymorth a gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant yn Rhondda Cynon Taf.

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol;

  • Darparwyr gofal plant
  • Defnyddwyr darparwyr gofal plant (h.y. rhieni/cynhalwyr)

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol ar gyfer Datblygu Gofal Plant:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Dynodyddion personol fel dyddiad geni
  • Gwybodaeth Ariannol
  • Cofnodion hyfforddi a hanes cyflogaeth

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu’r data personol ar gyfer datblygu gofal plant. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i;

  • Prosesu ceisiadau am grantiau gofal plant.
  • Prosesu ceisiadau am gyfleoedd hyfforddi
  • Trefnu achlysuron ymgysylltu wyneb yn wyneb a rhithwir
  • Rhoi cyngor a chymorth i ddarparwyr Gofal Plant
  • Ymchwilio i gwynion gan Ddefnyddwyr darparwyr gofal plant (h.y. rhieni/cynhalwyr)
  • Prosesu taliadau i ddarparwyr gofal plant
  • Prosesu ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd angen cyllid ychwanegol h.y. i roi cymorth i blant ag anghenion ychwanegol sy'n dod i'r amlwg.
  • Gwirio aelodaeth darparwyr gofal plant sydd newydd gofrestru.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer Datblygu Gofal Plant yw;

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Adran 22 o Ddeddf Gofal Plant 2006
  • Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan y categorïau canlynol o unigolion neu sefydliadau;

  • Darparwyr Gofal Plant
  • Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Defnyddwyr darparwyr gofal plant (h.y. rhieni/cynhalwyr)

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol ar gyfer Datblygu Gofal Plant.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy 

Diben

Adrannau Mewnol y Cyngor

 

  • Cyllid
  • Dechrau'n Deg
  • Y Blynyddoedd Cynnar
  • Mynediad a Chynhwysiant
  • Derbyn Disgyblion

 

Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r adrannau yma am y rhesymau isod:

  • I brosesu taliadau
  • Asesu ceisiadau am gyllid
  • Asesu ceisiadau am gyllid ychwanegol i roi cymorth i blant ag anghenion dysgu sy'n dod i'r amlwg.
  • Cefnogi rhieni i wneud ceisiadau am leoedd ysgol.

Darparwyr hyfforddiant

  • Trefnu a darparu cyfleoedd cwnsela a hyfforddi

PACEY Cymru

  • Ar gyfer aelodaeth gwarchodwyr plant sydd newydd gofrestru.
  • Asesu ceisiadau am gyllid

Sefydliadau Gofal Plant Ymbarél

  • NDNA
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru
  • Mudiad Meithrin
  • Clybiau Plant Cymru

 


  • Sicrhau bod gan bob sefydliad ymbarél sy'n gweithio gyda'r sector gofal plant yn RhCT yr wybodaeth ddiweddaraf berthnasol
  • Asesu ceisiadau am gyllid

Arolygiaeth Gofal Cymru

  • Rhoi gwybod am ddarparwyr gofal plant os oes gyda ni bryderon am eu harferion neu eu safle.
Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion yn ymwneud â Datblygu Gofal Plant am:

Faint o amser 

Rheswm

Caiff Ceisiadau Grant a gohebiaeth gysylltiedig eu cadw am 10 mlynedd

Dyletswydd statudol i'w cadw

Caiff Cofnodion Hyfforddiant eu cadw am 10 mlynedd

Dyletswydd statudol i'w cadw

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael ei gadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn yr hir dymor neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Datblygu Gofal Plant yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Drwy e-bostio: CarfanGofalPlant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 570048

Drwy'r post: Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Menter y Cymoedd, Parc Hen Lofa'r Navigation, Abercynon CF45 4SN

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Gwefan: https://www.ico.org.uk