Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol o fewn y Gwasanaethau Arlwyo ar gyfer darparu dietau arbennig
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaethau Arlwyo. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.
Nod Gwasanaethau Arlwyo'r Cyngor yw gwella bwyd a maeth yn ein hysgolion i gryfhau iechyd a lles y disgyblion a chodi safonau dysgu a chyrhaeddiad ar gyfer ein disgyblion. Fel rhan o'r gwasanaeth yma rydyn ni'n darparu ar gyfer disgyblion â gofynion dietegol arbennig. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys:
- Staff arlwyo ysgolion - sy'n paratoi, coginio a dosbarthu'r prydau bwyd.
- Gwasanaeth Cefnogi Gweinyddol - sy'n gweithio'n agos gyda charfannau arlwyo ysgolion ac sy'n darparu cymorth gweinyddol ac yn delio ag atgyfeiriadau diet arbennig. Daw atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan riant / cynhaliwr y disgybl neu drwy ysgol y disgybl.
|
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Enw'r disgybl a'r ysgol
- Manylion cyswllt y rhiant / cynhaliwr, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth iechyd fel gofynion dietegol a gwybodaeth alergedd
|
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi'u hatgyfeirio at y Gwasanaeth.
Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:
- Rhieni / cynhalwyr y disgybl
- Ysgol y disgybl
- Gwybodaeth ddietegol ac alergedd gan weithiwr meddygol proffesiynol
|
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:
- Darparu pryd bwyd i'r disgybl o'i ddewis ac sy'n bodloni ei ofynion dietegol
- Sicrhau diogelwch a lles y disgybl
|
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.
Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu cymorth, cyngor a chwynion i gorff llywodraethu ysgol yw:
- Cyflawni ein dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion a Gynhelir 2014.
|
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?
Byddwn ni'n rhannu'r gofynion dietegol arbennig gyda'r ysgol i sicrhau bod y prydau cywir yn cael eu gweini.
|
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni'n cadw gwybodaeth bersonol am flwyddyn ar ôl i'r disgybl adael yr ysgol.
|
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bost : gwasanaethauarlwyo@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn : 01443 744089
Trwy lythyr : Gwasanaethau Arlwyo, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ
|