Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles (Trwyddedu Plant)

 

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. Wrth i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

 1.  Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud 

Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA)/Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), neu sy'n ddisgyblion agored i niwed, ac yn rhoi cymorth iddyn nhw. 

Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifainc sydd ag AAA/ADY neu rwystrau i ddysgu yn cael cyfleoedd i gyflawni'u potensial mewn amgylchedd cefnogol sy'n eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn ac yn sicrhau: 

  • eu bod nhw'n iach
  • eu bod nhw'n cadw'n ddiogel
  • eu bod nhw'n mwynhau bywyd ac yn llwyddo
  • eu bod nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol
  • eu bod nhw'n cyflawni llesiant economaidd 

Mae'r gwasanaeth yn darparu 3 maes allweddol o gymorth: 

  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg (sy'n cynnwys y garfan Plant sy'n Derbyn Gofal) 

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc er mwyn cefnogi eu datblygiad, llesiant, gwytnwch, dysgu a chyflawniad mewn ystod o sefyllfaoedd a lleoliadau. Maen nhw'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gweithredu gydag unigolion, grwpiau, ysgolion a systemau ehangach fel Awdurdodau Lleol a'r gymuned. Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gwarcheidwaid, teuluoedd a phobl eraill yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr un dull gweithredu yn cael ei ddefnyddio gan bawb. Mae Seicolegwyr Addysg yn canolbwyntio ar y plentyn/person ifanc, yn ymdrechu i wrando arno a hyrwyddo hynny.  

  • Gwasanaeth Cynnal Dysgu sy'n cynnwys Dysgu, y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad 

Mae’r gwasanaethau yma'n gweithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifainc sydd ag AAA/ADY, eu teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill er mwyn eu cynorthwyo. Mae’r anghenion yma'n cynnwys nam ar y golwg, nam ar y clyw, anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau lleferydd ac iaith, anawsterau dysgu cymhleth ac anawsterau dysgu penodol (Dyslecsia), ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc y mae'r Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw. 

  • Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegol 

Mae'r gwasanaeth yma'n gweithio'n agos gyda'r Seicolegwyr Addysg a'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu i ddarparu cymorth gweinyddol ar gyfer ysgolion, rhieni/gwarcheidwaid, disgyblion a gweithwyr proffesiynol eraill mewn perthynas â phlant a phobl ifainc sydd ag AAA/ADY. 

Paneli / Fforymau y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant 

Yn rhan o broses penderfynu'r Awdurdod Lleol, mae paneli/fforymau arbenigol yn cyfarfod i drafod achosion unigol.  Mae'r cyfarfodydd yma bob amser yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o’r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant.  Byddai modd iddyn nhw hefyd gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill hefyd, er enghraifft, penaethiaid, athrawon arbenigol ac arbenigwyr ym maes iechyd.  Swyddogaeth y panel/fforwm yw trafod AAA/ADY y plentyn/person ifanc neu'i rwystrau i ddysgu er mwyn cytuno ar yr ymateb mwyaf addas i ddiwallu'i anghenion. 

(Mae hwn yn drosolwg cyffredinol o baneli/fforymau y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant - os oes angen gwybodaeth arnoch chi am banel/fforwm penodol, yna cysylltwch â'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant am ragor o fanylion - gweler Adran 9) 

Mae rhagor o fanylion am y gwasanaeth ar gael ar y wefan:- https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SchoolsandLearning/AccessandInclusiontoEducation/AccessandInclusiontoEducation.aspx

 2.      Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys: 

Gwybodaeth am yr unigolyn (hynny yw, y plentyn/person ifanc): 

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Statws 'Plant sy'n Derbyn Gofal' (os yw'n berthnasol)
  • Gwybodaeth am gyflawniad addysgol (er enghraifft, canlyniadau arholiad), diogelu a llesiant (er enghraifft, pryderon ynglŷn â diogelwch)
  • Gweithgareddau sy'n ymwneud â datblygiad proffesiynol aelodau staff sy'n cefnogi'r plentyn/person ifanc (e.e. fideo, tystebau, ymyriadau, ac ati) 

Rydyn ni hefyd yn cadw gwybodaeth sy'n ddata 'categori arbennig' - mae hyn yn cynnwys: 

  • Gwybodaeth am iechyd (er enghraifft, cyflyrau meddygol, geneteg)
  • Tras Ethnig
  • Crefydd
  • Hil
  • Cyfeiriadedd rhywiol/bywyd rhywiol (dim ond pan fydd yr wybodaeth yma'n cael ei rhoi gan y plentyn/person ifanc)

 Gwybodaeth am rieni/gwarcheidwaid neu gynhaliwr y plentyn/person ifanc: 

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Dyddiad geni
  • Rhyw

 3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth gyfredol (a gwybodaeth o'r gorffennol) am blant/pobl ifainc sydd wedi cael eu hatgyfeirio i'r Gwasanaeth am gymorth, arweiniad neu gyngor arbenigol sy'n ymwneud ag AAA/ADY. 

Mae'r wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan ystod o wasanaethau gan gynnwys: 

  • Y plentyn/person ifanc yn uniongyrchol (er enghraifft, yn ystod sesiynau cymorth)
  • Rhieni/gwarcheidwaid (er enghraifft, pan fyddwn ni'n ymgynghori â nhw am atgyfeiriad y plentyn / person ifanc ac yn trafod y cymorth y bydd ei angen ar y plentyn/person ifanc ac ati) 
  • Ysgolion (er enghraifft, cynnydd yn y dosbarth, sut mae unrhyw anghenion dysgu ychwanegol yn effeithio arno yn yr ysgol, y cymorth sydd ei angen)
  • Gwasanaethau eraill yn yr Awdurdod Lleol (er enghraifft, Gwasanaethau i Blant)
  • Gwasanaethau Iechyd, Meddyg Teulu, Ymgynghorwyr (er enghraifft, gwybodaeth am unrhyw ddiagnosis meddygol, anableddau corfforol ac ati)
  • Ysgolion blaenorol y plentyn/person ifanc (er enghraifft, cynnydd yn y dosbarth, sut roedd angen dysgu wedi effeithio arno yn yr ysgol, cymorth a gafodd ei ddarparu)
  • Awdurdodau Lleol Eraill (er enghraifft, ffeil AAA/ADY os yw'r plentyn/person ifanc wedi symud i RCT o'r tu allan i'r ardal)
  • Rydyn ni hefyd yn paratoi ein gwybodaeth ein hunain wrth ymgysylltu â'r plentyn/person ifanc (er enghraifft, deilliannau panel/fforwm, asesu, adroddiadau cynnydd, gohebiaeth gyda rhieni/gwarcheidwaid ac asiantaethau).

 4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma er mwyn: 

  • Nodi, asesu ac adolygu AAA/ADY plentyn/person ifanc neu'i rwystrau i ddysgu, a rhoi'r cymorth priodol. Wrth i ni wneud hyn, mae'n bosibl y byddwn ni'n:
  • Adolygu/asesu AAA/ADY plentyn/person ifanc.
  • Cael gwybodaeth gan Feddygon Teulu, y Bwrdd Iechyd Lleol ac ati ynghylch anghenion meddygol y plentyn/person ifanc er mwyn ein helpu ni i gynnal ein hasesiad.
  • Gweithio gyda rhieni/gwarcheidwaid i nodi a chytuno ar y ffordd orau bosibl o gynorthwyo'r plentyn/person ifanc.
  • Trefnu cymorth ar gyfer y plentyn/person ifanc yn yr ysgol.
  • Adolygu cynnydd y plentyn/person ifanc yn rheolaidd ac asesu ei gyflawniad.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i'r ysgol ynglŷn â sut y gall gynorthwyo'r plentyn/person ifanc i gyflawni'i botensial.
  • Trafod AAA/ADY y plentyn/person ifanc yn y paneli, fforymau a sesiynau cynnig cyngor amrywiol priodol (er enghraifft, panel AAA/ADY, panel ymgynghorol, fforwm y blynyddoedd cynnar).
  • Cysylltu â darparwyr hyfforddiant a byrddau arholi i gynorthwyo â datblygiad proffesiynol staff. 

Nodwch nad yw'r rhestr uchod yn un gynhwysfawr. 

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Dyma ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol at y dibenion uchod: 

Rhwymedigaeth gyfreithiol 

  • Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Addysg 2002, Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2004 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol 2018.
  • Wrth brosesu data sy'n deillio o atgyfeiriadau â chaniatâd, ymgysylltu ac ymyriadau ac ati. 

Tasg Gyhoeddus 

  • Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu gyflawni awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth, a ninnau’n gorff cyhoeddus. 

Caniatâd 

  • Gweithwyr proffesiynol arbenigol allanol: 

Weithiau, er mwyn i ni wneud penderfyniad gwybodus am asesiad plentyn/person ifanc, efallai y bydd angen i ni gael gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol arbenigol allanol megis gweithwyr iechyd preifat a gweithwyr addysgol sydd efallai wedi bod yn rhan o bethau (ac eithrio asesiad statudol). 

Pan fydd angen i ni gael y fath wybodaeth gan y gweithwyr proffesiynol arbenigol allanol yma, byddwn ni'n ceisio caniatâd y plentyn/person ifanc/rhiant/gwarcheidwad (fel y bo'n briodol) i wneud hynny.  

  • Plant o dan ddwy flwydd oed: 

O dan y gyfraith, rhaid i ni gael caniatâd y rhiant/gwarcheidwad ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â phlant o dan ddwy flwydd oed.  

  • Person ifanc 16 oed a hŷn 

Bydd gofyn i berson ifanc roi caniatâd cyn trafod ADY posibl. 

  • Datblygiad proffesiynol: 

Cynorthwyo yn natblygiad proffesiynol staff y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, e.e. byrddau arholi, hwyluswyr hyfforddiant ac ati.

 6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â rhoi cymorth yn unol â chyfraith addysg bresennol, mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth â'r canlynol: 

Gwasanaethau eraill y Cyngor: 

  • Gweithwyr proffesiynol y Gwasanaethau Cymuned a'r Gwasanaethau i Blant (er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol)
  • Gweithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant (er enghraifft, athrawon arbenigol)
  • Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc
  • Asiantau/asiantaethau wedi'u comisiynu (er enghraifft, Seicolegwyr Addysg Locwm, therapyddion lleferydd preifat, ffisiotherapyddion preifat ac ati)
  • Paneli apeliadau (er enghraifft, gwaharddiadau ysgol) 

Sefydliadau eraill: 

  • Ysgolion
  • Gwasanaethau Eirioli (er enghraifft, SNAP Cymru)
  • Gwasanaethau Iechyd (er enghraifft, Meddyg Teulu, Ymgynghorwr)
  • Awdurdodau Lleol eraill 
  • Yr Heddlu
  • Gyrfa Cymru
  • Tribiwnlysoedd (er enghraifft, Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru  (TAAAC), Tribiwnlys Addysg Cymru (TAC))
  • Cyrff hyfforddi/arholi yn ymwneud â datblygiad proffesiynol staff 

Os yw amgylchiadau yn codi sy'n ymwneud â phryderon am lesiant a diogelwch plentyn/person ifanc, efallai bod angen rhannu gwybodaeth heb yn wybod i'r rhiant/gwarcheidwad neu heb ei ganiatâd.  

7.    Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw? 

Yn unol â pholisi cadw'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, rydyn ni'n cadw cofnodion hyd nes i'r plentyn/person ifanc gael ei ben-blwydd yn 50 oed. 

 8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma www.rctcbc.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i'w harfer nhw.

 9.    Cysylltu â ni 

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod: 

E-bost: CynaMyn@rhondda-cynon-taf.gov.uk 

Ffôn: 01443 744344 

Anfon llythyr: Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ