Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau i Fusnesau y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion ar gyfer Grantiau i Fusnesau yn Rhondda Cynon Taf gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Grantiau i Fusnesau yn Rhondda Cynon Taf y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Garfan Adfywio:

  • E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk
  • Ffonio: 01443 281124

Anfon llythyr :

Adran Ffyniant a Datblygu

Carfan Adfywio

Tŷ Sardis

Heol Sardis

Pontypridd

CF37 1DU

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Garfan Adfywio yn darparu cymorth i fusnesau yn Rhondda Cynon Taf drwy wneud y canlynol:

Prosesu ceisiadau am gyllid grant ar ran Llywodraeth Ganolog y DU, megis Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU at ddibenion grantiau i fusnesau ar gyfer:

  • Adnewyddu eiddo - Gwaith adeiladu ar eiddo masnachol
  • Cynnal a chadw eiddo - Graddfa fach, cynllun strategol gwella canol tref i wella gwedd blaen eiddo masnachol
  • Prynu offer cyfalaf, megis peiriannau, cyfarpar ac offer TGCh

Data personol y byddwn yn ei brosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r unigolion canlynol i reoli grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i Fusnesau yn Rhondda Cynon taf:

  • Manylion cyswllt gweithwyr Mentrau Masnachu

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Yn ddibynnol ar natur y busnes e.e. ar gyfer masnachwr unigol, mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau data personol canlynol i reoli Grantiau i Fusnesau yn Rhondda Cynon Taf y Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Manylion cyswllt - enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn
  • Manylion banc - cod didoli, rhif cyfrif
  • Pwrpas y cyllid

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu data personol i reoli graniau i Fusnesau yn Rhondda Cynon Taf y Gronfa Ffyniant Gyffredin.  Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

Rydyn ni'n prosesu ceisiadau am gyllid grant ar ran Llywodraeth Ganolog y DU at y dibenion canlynol:

  • Adnewyddu eiddo - Gwaith adeiladu ar eiddo masnachol
  • Cynnal a chadw eiddo - Graddfa fach, cynllun strategol gwella canol tref i wella gwedd blaen eiddo masnachol
  • Prynu offer cyfalaf, megis peiriannau, cyfarpar ac offer TGCh
  • Paratoi adroddiadau i arddangos bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio yn unol â thelerau Llywodraeth Ganolog y DU.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i reoli grantiau i fusnesau Rhondda Cynon Taf y Gronfa Ffyniant Gyffredin;

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Ymgeiswyr

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â'r sefydliadau allweddol canlynol i rheoli grantiau i fusnesau Rhondda Cynon Taf y Gronfa Ffyniant Gyffredin;

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu.

Pwy

Diben

Adrannau mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Treth y Cyngor - i ddilysu preswylio, mewn achos perchennog busnes. 

Cyfraddau/Trethi busnes - i ddilysu bod y busnes yn gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

Dyledwyr - i ddilysu nad oes gan y busnes unrhyw ddyledion cyfredol.

Llywodraeth Cymru/Llywodraeth San Steffan

Adrodd ar allbynnau a deilliannau yn unol â thelerau ac amodau ariannu.

Proseswyr data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Y categori o broseswyr data rydyn ni'n ei ddefnyddio at ddibenion rheoli Grantiau i Fusnesau Rhondda Cynon Taf y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw;

  • Darparwyr Systemau TG, ac ati

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol yng nghofnodion Grantiau i Fusnesau y Gronfa Ffyniant Gyffredin am;

Faint o amser

Rheswm

10 mlynedd o ddyddiad cau'r cais

Gofyniad sydd wedi'i nodi yng nghytundeb cyllido Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

3 mlynedd

Ceisiadau anghyflawn

3 mlynedd

Ceisiadau aflwyddiannus

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Adfywio yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 281124

Anfon llythyr :

Adran Ffyniant a Datblygu

Carfan Adfywio

Tŷ Sardis

Heol Sardis

Pontypridd

CF37 1DU

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk