Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Rheoli Perygl Llifogydd.

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd data. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Garfan Rheoli Perygl Llifogydd:

E-bostiwch: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 281107

Drwy'r post: Rheoli Perygl Llifogydd, Llawr 2, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Garfan Rheoli Perygl Llifogydd yn gyfrifol am reoli digwyddiadau llifogydd sy'n cynnwys cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear yn Rhondda Cynon Taf.

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd;

  • Trigolion ac aelodau o’r teulu

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Gwybodaeth yswiriant 
  • Ffotograffau o eiddo wedi’i effeithio gan lifogydd
  • Gwybodaeth iechyd

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Cynnal ymchwiliadau yn dilyn digwyddiadau llifogydd.
  • Cynnal cofrestr asedau a chofnod o'r holl strwythurau a nodweddion hysbys sy'n debygol o gael effaith ar berygl llifogydd yn yr ardal.
  • Defnyddio ein pwerau gorfodi yn ôl yr angen er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw beryglon llifogydd.
  • Cynnal ymgynghoriadau â’r cyhoedd a gwella gwasanaethau.
  • Helpu trigolion i lunio cynlluniau gweithredu llifogydd personol a chynlluniau i’r gymuned er mwyn cynorthwyo gydag argyfyngau llifogydd.
  • Cyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd er mwyn helpu i leihau'r perygl o lifogydd i gartrefi.
    • Prosesu ceisiadau am ganiatâd a chymeradwyaeth, gan gynnwys caniatâd cwrs dŵr cyffredin, is-ddeddfau draenio tir a safonau cenedlaethol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd fel â chanlyn:

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9(2)(g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010
  • Deddf Draenio Tir 1991

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Trigolion / Aelodau o'r Cyhoedd
  • Aelodau Etholedig Lleol
  • Adrannau mewnol y Cyngor megis yr Adran materion Gorfodi, yr Adran Gyfreithiol, Adran Eiddo'r Cyngor ac ati
  • Ymgynghorwyr
  • Awdurdodau rheoli risg eraill 
  • Llywodraeth Cymru

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy 

Diben

Adrannau mewnol Cyngor Rhondda Cynon Taf

  • Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
  • Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
  • Iechyd yr Amgylchedd a Llygredd
  • Cefn Gwlad
  • Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
  • Eiddo'r Cyngor
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Cyfreithiol
  • Ymgynghoriad
  • Yswiriant

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu manylion gyda’r adrannau yma mewn perthynas â'r canlynol:

  • Ymholiadau gan gwsmeriaid 
  • Ymchwilio i lifogydd
  • Ymateb ar ôl y digwyddiad
  • Cynnal ein cofnod/cofrestr asedau 
  • Cynorthwyo gydag unrhywgamau gorfodi 
  • Cynorthwyo gydag arolygon ymgynghori ac achlysuron a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd
  • Prosesu hawliadau/cwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor.

 

Aelodau Etholedig Lleol

Cynorthwyo gydag ymholiadau gan gwsmeriaid, ymchwilio i achosion o lifogydd ac ymateb ar ôl digwyddiad.

Ymgynghorwyr Allanol

Cynorthwyo'r Cyngor gyda materion Rheoli Perygl Llifogydd h.y. casglu a choladu gwybodaeth mewn perthynas â pherygl/hanes llifogydd.

Cymdeithasau Tai

Cynorthwyo'r Cyngor gyda materion Rheoli Perygl Llifogydd h.y. casglu a choladu gwybodaeth yn ymwneud â pherygl/hanes llifogydd.

Sefydliadau Trydydd Parti Arall

  • Cyfoeth Naturiol Cymru 
  • Dŵr Cymru
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Llywodraeth Cymru

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i rannu gwybodaeth er mwyn gweithio mewn partneriaeith i Reoli Perygl Llifogydd mewn modd mwy effeithiol.

Prosesyddion Data

Mae prosesyddion data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein prosesyddion data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion Rheoli Perygl Llifogydd:

-        Darparwyr Systemau TG.

-        Ymgynghorwyr

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Rheoli Perygl Llifogydd am:

Faint o amser 

Rheswm

Cynlluniau Llifogydd Personol – adeg casglu’r data personol hyd at gwblhau'r cynlluniau

 

Fydd dim angen prosesu'r data mwyach ar ôl i’r cwblhau’r cynlluniau llifogydd personol

Achlysuron ymgynghori ac arolygon – adeg casglu’r data personol hyd at gwblhau'r prosiect

 

Monitro llwyddiant a gwaith darparu achlysuron ac arolygon

Data Cynllun Lliniaru Llifogydd –adeg casglu’r data personol hyd at gwblhau'r cynllun 

 

Cynorthwyo â gwaith darparu cynlluniau lliniaru llifogydd

Cofnodion ac adroddiadau ymchwilio i lifogydd –caiff ydata yma ei gadw am gyfnod amhenodol er mwyn rheoli perygl llifogydd.

 

Mae angen i fusnesau gadw'r data er mwyn cynorthwyo â digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol/yn y gorffennol.

Cofnod/Cofrestr Asedau – caiff ydata yma ei gadw am gyfnod amhenodol 

 

Mae yna ofyniad statudol i gadw'r data er mwyn cynorthwyo â digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol/yn y gorffennol.

Gweithgareddau gorfodi – caiff y data yma ei gadw am gyfnod amhenodol.

 

Mae angen i fusnesau gadw'r data er mwyn cynorthwyo â digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol/yn y gorffennol.

Data Perthynas â Chwsmeriaid – caiff ydata yma ei gadw am gyfnod amhenodol.

 

Mae angen i fusnesau gadw'r data er mwyn cynorthwyo â digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol/yn y gorffennol.

Data Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) – caiff ydata yma ei gadw am gyfnod amhenodol.

 

Mae angen i fusnesau gadw'r data er mwyn cynorthwyo â digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol/yn y gorffennol.

Data Caniatâd a Chymeradwyaeth – caiff y data yma ei gadw am gyfnod amhenodol. 

 

Mae angen i fusnesau gadw'r data er mwyn cynorthwyo â digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol/yn y gorffennol.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Rheoli Perygl Llifogydd yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113

Gwefan: https://www.ico.org.uk