Skip to main content

Disabled Facilities Housing Grant Privacy Notice

 

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion cyflawni Grant Cyfleusterau i'r Anabl drwy Grantiau Tai'r Adran Adfywio a Datblygu 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yna, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r prif ffyrdd rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Strategaeth Materion Tai a Buddsoddi. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor. 

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud? 

Mae'r Garfan Grantiau Tai yma i roi cymorth i drigolion RhCT wrth iddyn nhw gyflwyno cais am grant gorfodol Cyfleusterau i'r Anabl Llywodraeth Cymru. 

Mae'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl ar gael ar gyfer cynnal ystod o waith mewn cartref person anabl a fydd yn ei helpu i barhau i fyw'n annibynnol yn y cartref.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Wrth wneud cais am Grant Cyfleusterau i'r Anabl, byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth bersonol i brosesu'r cais. 

Mae'r mathau o wybodaeth y byddwn yn eu cadw ac fel arfer yn eu prosesu yn cynnwys:

  • Enw a chyfeiriad
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rif ffôn tŷ a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion Cyfrif Banc (er mwyn talu'r grant)
  • Tystiolaeth eich bod yn berchen ar y tŷ/yr eiddo, neu yn denant yn y tŷ/yr eiddo
  • Gwybodaeth bersonol arall wedi'i chyflwyno'n dystiolaeth i gefnogi'ch cais am grant
  • Manylion unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'ch cais. Gall hyn gynnwys eich partner a phobl eraill sy'n byw yn eich cartref.
  • Hawl i gael budd-daliadau a gwybodaeth ategol 
  • Gwybodaeth am eich incwm 

Efallai byddwn ni'n derbyn/casglu'r wybodaeth ganlynol gan eraill i gefnogi'ch cais:

  • Tystiolaeth eich bod yn berchen ar y tŷ/yr eiddo, neu yn denant yn y tŷ/yr eiddo
  • Cadarnhad o'ch hawl i ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Cadarnhad o'ch Rhif Yswiriant Gwladol
  • Prawf hunaniaeth (er enghraifft, ond heb ei gyfyngu i; pasbort, trwydded yrru, bil cyfleustodau ac ati)

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Mae'r gwasanaeth yn cael eich gwybodaeth o nifer o ffynonellau: 

  • Unrhyw wybodaeth sy'n dod i law gennych chi/ amdanoch gan y Garfan Un Man Cyswllt neu'r Therapydd Galwedigaethol
  • Chi, yr ymgeisydd, ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gais am grant
  • Ymholiadau dros y ffôn, drwy e-bost a/neu drwy lythyr
  • Chwiliadau y Gofrestrfa Tir
  • Meysydd gwasanaeth eraill sy'n rhan o'r Cyngor e.e. Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Er mwyn prosesu'ch cais am grant ac asesu'ch cymhwysedd i dderbyn y cyllid grant, fe wnawn ni'r canlynol: 

  • Rhoi cyngor cyn i chi gyflwyno cais
  • Gwirio gydag adrannau eraill y Cyngor, e.e. Adran Treth y Cyngor, er mwyn asesu eich cymhwysedd
  • Trafod unrhyw/pob agwedd ar y broses grant gyda chi
  • Asesu a chymeradwyo a gwneud taliadau sy'n ymwneud â'ch cais am Gymorth Grant
  • Gwneud taliad i chi neu'r contractwr o'ch dewis mewn perthynas â'ch cais am grant. Gall hyn gynnwys adeiladwr, trydanwr, plymwr, pensaer, ac ati.
  • Casglu adborth gan gwsmeriaid mewn perthynas ag effaith y grant, a'i adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru
  • Casglu adborth gan gwsmeriaid mewn perthynas â'r broses ymgeisio ac os hoffech chi gymryd rhan wrth hyrwyddo'r cynllun (gan gynnwys adroddiadau mewnol/allanol a/neu'r cyfryngau cymdeithasol)

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Bydd angen gwybodaeth ychwanegol ar y Garfan Grantiau Tai i brosesu'ch cais am grant. Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda:

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Treth y Cyngor
  • Adran Budd-daliadau Tai
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Cyllid

Unigolion eraill:

  • Datblygwyr, Adeiladwyr, Penseiri
  • Eich cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Eich asiant/cynrychiolydd
  • Llywodraeth Cymru

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw? 

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol ac i fynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu gwynion sy'n dod i law am hyn. Byddwn ni'n gwneud hyn am 10 mlynedd. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.  

9. Cysylltu â ni 

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod: 

E-Bost: grantiautai@rctcbc.gov.uk 

Ffoniwch: 01443 281118 

Anfonwch lythyr: 

Adran Adfywio a Datblygu 

Buddsoddiadau a Grantiau Tai 

Tŷ Sardis 

Heol Sardis 

Pontypridd 

CF37 1DU