Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cerdyn Teithio Rhatach

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn prosesu ceisiadau ar gyfer Cerdyn Teithio Rhatach

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cerdyn Teithio Rhatach. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud. 

Mae Uned Trafnidiaeth Integredig Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweinyddu'r Cynllun Cerdyn Teithio Rhatach ar gyfer ei breswylwyr hŷn a'i breswylwyr ag anabledd, ar ranLlywodraeth Cymru, acmewn cysylltiad â Thrafnidiaeth Cymru.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am unigolion sy'n berchen ar gerdyn teithio rhatach. Gall yr wybodaeth yma gynnwys:

Manylion Cyswllt

  • Enw(au) cyntaf
  • Cyfenw
  • Cyfeiriad

Manylion cyswllt e.e. rhif ffon a chyfeiriad e-bost

  • Dyddiad Geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Llun

 

3.      O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael gwybodaeth gennych chi naill ai pan fyddwch chi'n cwblhau'r ffurflen gais neu o ohebiaeth trwy'r post, dros y ffôn neu drwy e-bost gyda ni.  

4.      Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu er mwyn;

  • Anfon ffurflen gais atoch chi yn unol â'ch cais;
  • Prosesu'ch cais ac argraffu'ch cerdyn teithio - caiff eich data ei storio'n ddiogel mewn system genedlaethol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru (a'u darparwyr gwasanaethau) at ddibenion gweinyddu'r cynllun teithio rhatach;
  • Asesu'ch cymhwysedd a chysylltu â gweithiwr meddygol proffesiynol i gasglu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â'ch asesiad ar gyfer cerdyn teithio i berson anabl;
  • Rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich asesiad ar gyfer cerdyn teithio i berson anabl.  

5.      Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth pan fyddwch chi'n gwneud cais am gerdyn teithio rhatach yn cydfynd â'n 'Rhwymedigaeth Gyfreithiol' yn unol â:

Rydyn ni hefyd yn gofyn am eich 'Caniatâd' i gysylltu â chi at ddibenion marchnata. Byddwn ni ond yn cysylltu â chi ac/neu'n rhannu'ch gwybodaeth yn unol â'ch dewis chi fel sydd wedi'i nodi yn eich ffurflen gais. Cewch chi newid eich meddwl ynglŷn â'ch dewisiadau marchnata, gan gynnwys sut rydyn ni'n cysylltu â chi gan gysylltu â'r Uned Trafnidiaeth Integredig (mae'r manylion cyswllt wedi'u nodi yn adran 9 isod). Fydd hyn ddim yn effeithio ar eich cais am gerdyn teithio rhatach.   

6.      Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Mae gofyn i ni rannu gwybodaeth gyda'r sefydliadau canlynol er mwyn i'r Gwasanaeth weinyddu cardiau teithio rhatach:

Gwasanaethau eraill y Cyngor: 

  • Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith

Sefydliadau eraill:

  • Gwasanaethau Iechyd (e.e. Gweithwyr Meddygol Proffesiynol, Meddygon Teulu, Ymgynghorydd)
  • Menter Twyll Genedlaethol
  • Yr Heddlu
  • Trafnidiaeth Cymru

Cwmnïau Cludiant:

  • Bydd gan gwmnïau bysiau fynediad i roi eich cerdyn teithio'n unig, er mwyn allu hawlio'u had-daliad pan fyddwch chi'n defnyddio'ch cerdyn teithio.  Fydd ddim modd iddyn nhw gael mynediad i'ch data personol.

Darparwyr Systemau: 

  • Applied Card Technologies
  • ixRM

7.      Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd ei hangen i gyflawni'r dibenion sy'n cael eu disgrifio yn yr hysbysiad yma.
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw am 7 blynedd yn yr un fformat a gafodd eich gwybodaeth ei chyflwyno'n wreiddiol wrth wneud cais am gerdyn teithio.  Unwaith y byddwch chi wedi derbyn eich cerdyn teithio rhatach, bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel yn y system genedlaethol, sy'n cael ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.  Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar y system genedlaethol am 7 blynedd ar ôl i'ch cerdyn teithio gael ei ganslo.

8.      Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
 

 9.      Cysylltwch â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

  • E-bost: transportationservices@rctcbc.gov.uk
  • Ffon: 01443 425001
  • Trwy lythyr: Uned Trafnidiaeth Integredig, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU