Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y Cynllun Cymorth i Brynu Car (Benthyciad)
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.
Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y cynllun cymorth i brynu car (benthyciad). Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.
1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n rhoi benthyciadau i weithwyr i'w helpu nhw i brynu cerbyd er mwyn cyflawni dyletswyddau eu cyflogaeth. Rydyn ni'n parhau i dderbyn incwm yn erbyn y benthyciadau yma o dan delerau'r cytundebau cyfreithiol sydd mewn grym.
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am weithwyr presennol a gweithwyr o'r gorffennol sydd wedi cael benthyciad gan y Cyngor.
Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
- Manylion o ran cyflog a'r gyflogres.
3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?
- Gwybodaeth rydych chi wedi'i rhoi, a chithau'n wrthrych y data, e.e. wrth wneud cais
- Gwybodaeth wedi'i darparu gan aelodau o'r cyhoedd e.e. cwyn neu bryder
- Gwybodaeth wedi'i darparu gan y gwasanaeth
- Gwybodaeth gan wasanaethau eraill y Cyngor
4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?
Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol i weinyddu ac adennill taliadau benthyciad.
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?
Y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol:
- mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu'r Cytundeb Cyfreithiol.
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?
O bryd i'w gilydd, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol ag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel bod modd iddyn nhw ein helpu i gyflawni ein dyletswyddau, ein hawliau a'n disgresiwn wrth ddelio â benthyciadau cymorth i brynu car. Gall y rhain gynnwys:
Adrannau eraill o'r Cyngor:
- Adran y Gyflogres – gwirio bod y trothwy o ran milltiroedd blynyddol wedi cael ei fodloni a didynnu taliadau o'r cyflog
- Yr Adran Credydwyr – trefnu taliad trwy siec neu daliad uniongyrchol
Cyflenwyr a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Darparwr meddalwedd – (Result Software Ltd ar hyn o bryd) cynnal ein system benthyciad cymorth i brynu car.
Os ydych chi wedi gofyn i ni drefnu taliad uniongyrchol i gwmni gwerthu ceir, byddwn ni'n cysylltu â'r cwmni a rhannu cyn lleied o wybodaeth â phosibl.
7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?
Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i weinyddu'r benthyciad ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn ni eu derbyn am hyn, oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni ei chadw am gyfnod hwy.
8. Eich gwybodaeth, eich hawliau
Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut mae'u defnyddio nhw.
9. Cysylltwch â ni
Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:
E-bostio: refeniw@rctcbc.gov.uk
Dros y ffôn: 01443 680321
Trwy lythyr: Uwchadran Gwasanaethau Ariannol, Tŷ Bronwydd, Y Porth CF39 9DL