Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (UKCRF)

Hysbysiad Preifatrwydd Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (UKCRF)

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer ceisiadau UKCRF

Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i fod yn gymorth i'n cymunedau i dreialu rhaglenni a dulliau newydd yn RhCT.

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y rhaglen UKCRF. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) sy'n comisiynu'r cynllun yma ac mae'r Cyngor, yn ei rôl fel corff cymeradwy yn gweithredu fel porth, ac yn derbyn ceisiadau yn unol â dibenion y cynllun grant. Gwelwch Hysbysiad Preifatrwydd y UKCRF yma (mae fersiwn Gymraeg yr hysbysiad tua gwaelod y dudalen we).

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud? 

Mae rhaglen grant cyllid y UKCRF yn un sy'n cael ei ariannu'n ganolog gan Lywodraeth y DU.  Mae'n rhoi cyfle i bobl a chymunedau gynnig am arian i ddatblygu prosiectau a fydd yn gwella'r ardal leol.

Â'r Cyngor yn gweithredu fel porth, byddwn ni'n debyn ac yn asesu ceisiadau yn erbyn meini prawf Llywodraeth y DU. Yna byddwn ni'n anfon y ceisiadau sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol sy'n penderfynu'n derfynol pa geisiadau sy'n llwyddiannus.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am yr ymgeiswyr sy'n gwneud cais am y cynllun. Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, e-bost, rhifau ffôn, gwefanau, rhifau cofrestru cwmnioedd ac elusennau
  • manylion banc pe bai'r cais yn llwyddiannus.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Daw'r wybodaeth rydyn ni'n ei derbyn

  • o ffurflen gais yr ymgeisydd
  • 3ydd partïon megis Tŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau sy'n dilysu statws eich sefydliad.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Ceisiadau llwyddiannus

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth i brosesu'ch cais ac yna'n ei anfon ymlaen i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol am benderfyniad terfynol.

Ymgeiswyr Aflwyddiannus

Fydd eich gwybodaeth ddim yn cael ei defnyddio at unrhyw bwrpas pellach.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i sicrhau darpariaeth y rhaglen UKCRF yw arfer ein swyddogaethau fel awdurdod cyhoeddus ac er budd y cyhoedd

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?


Ymgeiswyr Llwyddiannus

Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a fydd yn  gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â'ch cais.

Ymgeiswyr Aflwyddiannus

Fydd eich gwybodaeth chi ddim yn cael ei rhannu ag unrhyw sefydliad arall na'i phrosesu at unrhyw bwrpas pellach.

7.    Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw trwy gydol y cynllun ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus at ddibenion monitro ac adborth cyn cael ei dinistrio'n ddiogel.   

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

 

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost : RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424001

Trwy lythyr: Gwasanaethau Cymuned, d/o Uned Cymorth i Fusnesau, Tŷ Elai, Dwyrain Dinas Isaf, Williamstown, Tonypandy, CF40 1NY