Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor. 

1.    Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn rheoli eiddo'r Sector Rhentu Preifat ar ran Landlordiaid i ddarparu tai fforddiadwy tymor hir, o safon uchel yn y sector rhentu preifat.

Mae'r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yn gyfrifol am reoli'r holl eiddo ac yn darparu cymorth materion tenantiaeth i alluogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth a rheoli tenantiaeth yn annibynnol.  

Nod yr Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol yw chwalu'r rhwystrau a allai fod gan rai cleientiaid wrth gael mynediad i eiddo rhent preifat a helpu i leihau'r amser aros i'r rhai sy'n aros i gael cartref.

Mae'r Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol hefyd yn flaenoriaeth yn Strategaeth Digartrefedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2018-2022

 2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

Tenantiaid

  • Enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion pawb sy'n byw yn yr eiddo; enwau, oedrannau ac os ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau at ddibenion monitro
  • Manylion cyswllt, gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost deiliad y denantiaeth
  • Manylion incwm ariannol a budd-daliadau, a manylion banc.
  • Unrhyw ddyled neu faterion yn ymwneud â thenantiaeth
  • Gwybodaeth am gymorth a gwybodaeth feddygol i sicrhau ein bod yn darparu'r lefel gywir o gymorth, i allu rheoli unrhyw risgiau, lleihau ôl-ddyledion rhent a blaenoriaethu atgyweiriadau
  • Unrhyw wybodaeth am euogfarn droseddol gyfredol sy'n ofynnol i gynorthwyo gyda'ch cais, er enghraifft, lleoliad yr eiddo sy'n cael ei gynnig, amodau mechnïaeth.

Landlord

  • Enw, cyfeiriad cartref personol
  • Manylion cyswllt, megis rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Manylion banc (i brosesu taliad rhent,

 3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Bydd yn cael yr wybodaeth gan:

  • Chi, yr ymgeisydd pan fyddwch chi'n gwneud cais am dai trwy Garfan Ceisio Cartref y Cyngor
  • Adrannau eraill y Cyngor, e.e. Carfan Materion Tai
  • Gwybodaeth sy'n cael ei ddarparu gan sefydliadau eraill, er enghraifft os oes gyda chi weithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymorth, Swyddog Prawf, yr Heddlu, neu unrhyw un arall a allai eich cefnogi i reoli tenantiaeth 

 4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

  • Cynnig opsiynau tai addas i chi a rheoli eich cytundeb tenantiaeth.
  • Cefnogi chi gyda'ch cytundeb tenantiaeth, h.y. rhoi cynlluniau talu ar waith.
  • Gweithio gyda'r sefydliad partner i wneud unrhyw atgyweiriadau a chynnal cyflwr yr eiddo.
  • Cynnal archwiliadau eiddo.
  • Byddwn ni hefyd yn ymwneud ag unrhyw anghydfodau rhwng cymdogion ac yn gweithio gyda'r Garfan Cymunedau Diogel i ddarparu cymorth a gweithredu lle bo hynny'n briodol.

 5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma? 

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n gallu  defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth tenantiaeth i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol:

Erthygl 6 1. (c), (e) – i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Cynllun Prydles Sector Rhentu Preifat Llywodraeth Cymru
  • Deddf Tai 2014

Gwybodaeth Categori Arbennig (h.y. gwybodaeth am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu gyfeiriadedd rhyw):

Erthygl 9 2. (g) - i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan:

  • Cynllun Prydles Sector Rhentu Preifat Llywodraeth Cymru
  • Deddf Tai 2014 

 6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill y Cyngor neu sefydliadau allanol i reoli a chefnogi eich cytundeb tenantiaeth ar gyfer y rhesymau isod:

Sefydliadau Allanol

  • Sefydliadau partner sy'n cynnal gwiriadau ac atgyweiriadau diogelwch h.y. Trivallis a Gofal a Thrwsio
  • Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ar gyfer argyfyngau ac atgyweiriadau y tu allan i oriau.
  • Alma Economics ar gyfer gwasanaethau ymgynghori
  • Elusennau a sefydliadau cymorth sy'n cynnig cymorth gyda materion ariannol neu ymdopi ag unigedd.
  • Gwasanaethau brys ar gyfer materion lles a diogelu.

Er mwyn cydymffurfio ag amodau cyllid a grant Llywodraeth Cymru, ond bydd yr holl wybodaeth bersonol yn ddienw.

Adrannau Mewnol y Cyngor

  • Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd i gwblhau archwiliadau eiddo a phenderfynu os yw eiddo'n addas.
  • Carfan Gyllid i brosesu taliadau rhent/grantiau a thaliadau benthyciadau.
  • Gwasanaethau Cyfreithiol i brosesu llofnodi contract/prydles (Landlord) neu unrhyw faterion tenantiaeth, e.e. troi allan / achos llys.
  • Carfan Cyfraith Eiddo os ydych chi'n gwneud cais am fenthyciad neu grant (Landlord)
  • Carfan Materion Tai ar gyfer atgyfeirio cleientiaid
  • Gwasanaethau i Blant a Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer materion lles a diogelu.
  • Carfan Cymunedau Diogel ar gyfer materion yn ymwneud ag ymddygiad cymdogion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

 7.    Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw? 

Bydd eich gwybodaeth chi yn cael ei chadw am 7 mlynedd ar ôl i'ch tenantiaeth ddod i ben. Mae hyn rhag ofn bod cwyn neu bryder cyfreithiol ynghylch y ffordd cafodd y denantiaeth ei chynnal.

 8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

 9.    Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Drwy e-bostio: GosodTaiCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 281490

Drwy lythyr: Asiantaeth Gosod Tai, Cymdeithasol, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF371DU