Skip to main content

Resilient Families - Assessment and Brokerage

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd data. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth:

E-bostiwch: GwasanaethTeuluoeddCydnerth@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 425006

Drwy'r post: Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ.

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Y Gwasanaeth Asesu a Broceriaeth yw'r pwynt cyswllt cyntaf â'r Garfan Teuluoedd Cydnerth. Mae angen asesu anghenion y teulu a'i arwain tua'r rhwydwaith cymorth cywir.

Yn ogystal ag asesu a nodi anghenion y teuluoedd rydyn ni'n gweithio gyda nhw, rydyn ni hefyd yn gyfrifol am fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy efallai'n dod i'r amlwg wrth inni ymwneud â nhw, ac yna penderfynu a yw'r mater wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer cynnwys y Garfan Amddiffyn Plant.

Mae'r Garfan Asesu a Broceriaeth hefyd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol eraill, fel y gwasanaethau addysg ac iechyd er mwyn galluogi'r gwasanaeth i ddarparu cynllun amlasiantaethol.

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol ar gyfer y gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth;

  • Defnyddwyr Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Plant a rhieni/gwarcheidwaid

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata ar gyfer y gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth;

  • Manylion personol - Enw, dyddiad geni
  • Manylion cyswllt – Cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn
  • Gwybodaeth Ariannol
  • Data Iechyd
  • Tarddiad hil neu ethnig,
  • Credoau crefyddol neu athronyddol,
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu’r data personol ar gyfer y gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Cynnal asesiad o anghenion y teulu er mwyn darparu cymorth

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol a'u darparu i'r gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr.
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n cael data personol

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Yn uniongyrchol gan deulu yn rhan o asesiadau/atgyfeiriadau
  • Unigolion proffesiynol fel;

           -   Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

           -    Carfan Ymholi ac Asesu

           -     Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys

           -    Carfan Plant Anabl

           -     Yr Heddlu

           -     Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

            -     Seicolegwyr Addysg

            -     Ysgolion

            -    Gweithwyr Iechyd Proffesiynol fel Ymwelwyr Iechyd/Pediatregwyr

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu’r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol sy'n cydweithio â'r gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth;

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy 

Diben

Adrannau eraill y Cyngor:

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS)

Ymwelydd Iechyd

Carfan Plant Anabl

Tai

Addysg

Nodi a darparu'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y teulu.

Sicrhau bod holl anghenion y teulu yn cael eu cefnogi.

Rhiant(rhieni)/Gwarcheidwad(waid) y plentyn. 

Sicrhau bod cynllun 'wedi'i arwain gan y teulu' yn cael ei roi ar waith.

Asiantaethau Cymorth:

Asiantaethau Cwnsela

Asiantaethau i Fenywod

Grwpiau Gwirfoddol

Darparu gwasanaeth cymorth effeithiol i bob aelod o'r teulu.

Sicrhau bod holl anghenion y teulu yn cael eu diwallu.

Ysgol

Nodi'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y person (pobl) ifanc dan sylw

Sicrhau diogelwch a lles y person (pobl) ifanc.

Rhannu gwybodaeth â phaneli perthnasol i sicrhau bod y ddarpariaeth fwyaf priodol yn cael ei darparu i gefnogi'r person (pobl) ifanc

 

 

Yr Heddlu

Nodi'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y person (pobl) ifanc dan sylw

Er mwyn trefnu gweithiwr achos a darpariaethau ymyrryd priodol.

Prosesyddion Data

Mae prosesyddion data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein prosesyddion data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Categori y proseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion y gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Asesu a Broceriaeth yw;

       -    Darparwyr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Teuluoedd Cydnerth am:

Faint o amser 

Rheswm

10 mlynedd o gau'r cofnod

Anghenion Gwasanaeth Gweithredol

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan (e.e. dogfennau sy'n cynnwys asesiadau, penderfyniadau, deilliannau ac ati).   Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

E-bost: E-bostiwch: GwasanaethTeuluoeddCydnerth@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 425006

Drwy'r post: Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostio Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk