Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd (Lifeline)

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

E-bost: gwasanaethauigwsmeriaid@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425005

Anfon llythyr : Pennaeth Gofal i Gwsmeriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Swyddfeydd Tŷ Elái, Trewiliam, Rhondda CF40 1NY

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd 24 awr y Cyngor yn ymateb i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol ar draws Rhondda Cynon Taf.  

Bydd galwadau sy'n cael eu trin gan y gwasanaeth monitro yn cynnwys galwadau argyfwng sy'n cael eu hanfon i'r gwasanaethau brys ar gyfer ymateb brys, ceisiadau am ymatebwyr allweddol (perthynas agosaf, aelodau o'r teulu ac ati) i helpu defnyddwyr y gwasanaeth ac i wneud galwadau lles bob dydd. Mae'r gwasanaeth yn ymateb i alwadau o larymau perifferol, megis larwm crog, synwyryddion cwympo, synwyryddion mwg, synwyryddion llifogydd, synwyryddion carbon monocsid, synwyryddion epilepsi ac ystod eang o ddyfeisiau eraill.

Caiff galwadau eu derbyn drwy'r system dderbyn larwm PNC7, sydd hefyd yn storio a phrosesu gwybodaeth allweddol am bwnc y data. Mae'r system weithredu yma’n galluogi gweithredwyr i dderbyn ac ymateb i alwadau'n effeithlon ac yn effeithiol a darparu'r ymateb cywir i'n cwsmeriaid, gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd wedi'i darparu yn ystod yr alwad a'r wybodaeth allweddol sydd wedi'i chofnodi ynglŷn â phwnc y data. 

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol i'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd;

  • Cwsmeriaid sy'n dewis cael technoleg gynorthwyol wedi'i osod (y mae Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd yn ymateb iddo)
  • Ymatebwyr allweddol i gleientiaid

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Rhif ffôn
  • Manylion meddygol

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw;

  • I sicrhau bod y Cyngor yn darparu gwasanaeth diogel i chi bydd gwybodaeth bersonol amdanoch chi  ac ymatebwyr allweddol yn cael ei defnyddio i drefnu cefnogaeth pe bai digwyddiad / larwm yn cael ei sbarduno.
  • Bydd yr wybodaeth byddwn yn ei rhannu, a'r bobl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda nhw, yn amrywio yn ôl eich amgylchiadau fel sy'n cael ei nodi pan fyddwch chi'n cysylltu â ni.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer y Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd yw;

  • Contract (b) – Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol –  prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract y mae testun y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau gweithredu ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract;
  • Buddiannau Hanfodol (d) – mae angen prosesu er mwyn diogelu buddiannau hanfodol testun y data neu berson naturiol arall;

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

Ar y cyfan, caiff yr wybodaeth bersonol ei chasglu trwy gyfrwng ffurflen gais / asesu cyn gosod a monitro offer technoleg gynorthwyol, ond mae modd ei diweddaru'n ddiweddarach drwy alwad ffôn neu drwy ysgrifennu aton ni. Gall ffynonellau gwybodaeth bersonol gynnwys:

  • Gwybodaeth rydych chi'n ei darparu'n uniongyrchol gan y cleient wrth ofyn am y gwasanaeth
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan eich cynrychiolydd (e.e. aelod o'r teulu, gŵr/gwraig, partner, plentyn, eiriolwr)
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan aelod arall o'r cyhoedd (e.e. cwyn neu bryder)
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan Gynghorydd etholedig ar ran ei etholwr
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan swyddogion y Cyngor/gwasanaethau eraill sy'n cysylltu â'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd er mwyn helpu ei gwsmeriaid, neu'r Cyngor ei hun
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan sefydliadau eraill (e.e. Gwasanaethau Brys, Landlordiaid Cymdeithasol) am unigolyn.

Lle rydych chi wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, fel aelodau o'r teulu, cymdogion, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn effro i'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad yma.

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu data personol gyda'r sefydliadau allweddol canlynol i reoli'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd rydyn ni'n ei ddarparu:

Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu.

Pwy

Diben

Adrannau eraill y Cyngor

Yr Heddlu

Gwasanaeth Ambiwlans

Y Gwasanaeth Tân

Y Bwrdd Iechyd Lleol

Landlordiaid Cymdeithasol (os yw'n berthnasol)

Er mwyn rheoli'r Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd yn effeithiol.

Darparwr Gwasanaeth dros y Ffôn

Ar gyfer cefnogi a chynnal a chadw'r gwasanaeth

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Y categori o broseswyr data a ddefnyddiwn at ddiben y Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd yw;

-       Darparwyr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Gwasanaeth Monitro Gwifren Achub Bywyd am:

Faint o amser

Rheswm

Cofnodion Digidol – Tra bod y cleient yn derbyn y gwasanaeth.

Darparu Gwasanaeth

Cofnodion papur – Tra bod y cleient yn derbyn y gwasanaeth a’r flwyddyn ariannol ddilynol (uchafswm o 24 mis)

Darparu gwasanaeth ac ymholiadau bilio.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan (e.e. dogfennau sy'n cynnwys asesiadau, penderfyniadau, deilliannau ac ati). Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn rhan o arferion busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: gwasanaethauigwsmeriaid@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 425005
  • Anfon llythyr: Pennaeth Gofal i Gwsmeriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Swyddfeydd Tŷ Elái, Trewiliam, Rhondda CF40 1NY

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk