Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Chynllun Cartrefi i Wcráin y DU

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cynllun Cartrefi i Wcráin

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol mewn perthynas â Chynllun Cartrefi i Wcráin y DU. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin.

Mae nifer o bobl ledled y Fwrdeistref Sirol eisiau helpu a dangos cefnogaeth i bobl Wcráin yn y cyfnod torcalonnus yma. Mae yna lawer o sefydliadau sy'n helpu yn yr argyfwng ac apêl dyngarol.

Mae Cyngor RhCT wedi ymrwymo i dderbyn pobl Wcráin drwy gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU.

Bydd y cynllun yma'n cefnogi pobl Wcráin gyda Thai, Addysg, Iechyd ac integreiddio i'r gymuned, yn ogystal â rhoi cymorth i'r bobl sy'n gwirfoddoli i noddi pobl a theuluoedd o Wcráin.

Rhaid nodi bod yn rhaid i Gynghorau newid y ffordd y maen nhw'n gweithio yn gyflym yn ystod y cyfnod yma er mwyn parhau i ddarparu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi. Byddwn ni bob amser yn dilyn cyngor ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth wneud unrhyw newidiadau i’r ffordd rydyn ni'n darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Os ydych chi'n dod o Wcráin neu'n berson/teulu sy'n noddi rhywun o Wcráin, bydd y mathau o wybodaeth amdanoch chi y bydd y Cyngor yn eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys, ond fyddan nhw ddim yn gyfyngedig i:

Pobl o Wcráin

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost,
  • Dyddiad geni
  • Gwybodaeth Visa / Pasbort
  • Gwybodaeth am aelodau'r teulu, gan gynnwys unrhyw blant
  • Gwybodaeth am anabledd ac iechyd
  • Ethnigrwydd
  • Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw bryderon diogelu
  • Enw'r ysgol y bydd unrhyw blant yn mynd iddi
  • Crefydd

Teulu sy'n Noddi

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Manylion aelodau'r teulu sy'n byw yn yr eiddo, gan gynnwys oedrannau
  • Manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw faterion diogelu, gwiriadau diogelwch ac asesiadau i'r cartref sydd eu hangen ar gyfer eich addasrwydd i roi cymorth
  • Manylion Banc i brosesu'r taliad o ddiolch bob mis.

Mae angen yr wybodaeth yma er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth ar waith a bod pobl yn derbyn cymorth priodol

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf (fel yr Awdurdod Lleol cyfrifol), yn derbyn gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref ar bob person sy’n cael ei groesawu i RCT.

Os ydych chi'n Noddwr, byddwn ni'n derbyn eich gwybodaeth o'ch ffurflen gais ac unrhyw wybodaeth ychwanegol y byddwn ni'n ei chasglu gennych chi pan fyddwn ni'n trafod eich cais. 

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n cynnal asesiad i sefydlu pa gymorth y mae modd i ni ddarparu i chi a'ch teulu; yn ogystal ag asesu cartref/aelwyd y Noddwr.

Byddwn ni'n cadw cofnod o'r cymorth y byddwn ni'n ei ddarparu i chi, ac o bosib yn cynnal adolygiadau rheolaidd i ddadansoddi a yw'r rhaglen yn gweithio i chi, neu a oes angen i ni newid unrhyw beth er mwyn eich helpu chi. 

Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, ddatblygu cynlluniau cymorth ar ôl cyrraedd gyda sefydliadau gan gynnwys gwasanaethau iechyd a chymorth.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig gwasanaeth cymorth yn y cartref i chi ac i fodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol

Erthygl 6(1)(c) – rhwymedigaeth gyfreithiol: i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â darparu tai, addysg, cymorth budd-daliadau ac ati.

Erthygl 6(1)(e) –cyflawni tasg sydd er budd y cyhoedd neu er mwyn, yn rhan o'n swyddogaethau swyddogol, ddarparu'r lefel briodol o gymorth i bob teulu sy'n cael ei adleoli i RCT. 

Gwybodaeth Categori Arbennig

Erthygl 9 2(g) – prosesu gwybodaeth categori arbennig megis hil, ethnigrwydd, iechyd i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol fel y manylir uchod.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â phartneriaid ac adrannau mewnol ac allanol, yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i: 

Gwasanaethau Mewnol y Cyngor 

  • Addysg
  • Gwasanaethau Ariannol
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Cyflogaeth
  • Adnoddau Dynol
  • Materion Tai/Digartrefedd

Gwasanaethau Allanol 

  • Darparwr Gwasanaeth Cymorth (Cyngor Ffoaduriaid Cymru)
  • Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP)
  • Asiantaethau’r Llywodraeth (Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Gwasanaethau Iechyd)
  • Heddlu De Cymru
  • Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Sefydliadau Gwirfoddol Lleol a grwpiau ffydd
  • Cyfiawnder Tai Cymru

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch chi. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os hoffech chi wybod rhagor am sut rydyn ni'n trin gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

Drwy anfon e-bost: CymorthiWcrain@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 425640

Drwy lythyr: Gary Black, Rheolwr Gwasanaeth - Cymunedau Diogel a Phartneriaethau Strategol, Tŷ Elái, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY