Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau Cwm Taf Morgannwg

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i'r angen i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yma, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau Cwm Taf Morgannwg. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau Cwm Taf Morgannwg yn bartneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol mewn argyfyngau y tu allan i oriau arferol rhwng awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful. Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod lleol arweiniol.

Mae'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau yn darparu cymorth i oedolion sy'n agored i niwed, plant mewn angen a'u teuluoedd i ymdopi ag argyfyngau pan nad oes modd aros tan y diwrnod nesaf i ymateb. Bydd y gwasanaeth ar gael pan fydd swyddfeydd oriau dydd lleol yn cau.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Os byddwch chi'n cysylltu â'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau, bydd y mathau o wybodaeth y bydd y Cyngor yn eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Ethnigrwydd
  • Crefydd
  • Cenedligrwydd
  • Rhywedd
  • Manylion Cyswllt
  • Perthynas agosaf
  • Manylion Perthnasau
  • Gwybodaeth ynghylch eich iechyd
  • Gwybodaeth ynghylch iechyd meddwl
  • Gwybodaeth am addysg
  • Gwybodaeth am gynhaliwr
  • Gwybodaeth am eich sefyllfa o ran tai
  • Troseddau Honedig, Troseddau ac Euogfarnau

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n derbyn gwybodaeth bersonol gennych chi pan fyddwch chi'n cysylltu â gwasanaeth tu allan i oriau arferol y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu er mwyn:

  • Darparu cyngor, cymorth neu wasanaethau ar frys mewn argyfyngau.
  • Diogelu oedolion sy'n agored i niwed a phlant mewn angen rhag cael eu niweidio.

5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn nodi ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn cynnig Gwasanaethau ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau i chi a bodloni gofynion y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) fel a ganlyn:

Gwybodaeth Bersonol

Erthygl 6 (1)(c) - Rhwymedigaeth gyfreithiol: cydymffurfio â'n rhywmedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â darparu gwasanaeth y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau.

Erthygl (1)(e) - cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu er mwyn, yn rhan o’n swyddogaethau swyddogol, ddarparu cymorth addas ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth sy'n cysylltu â gwasanaeth y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau.

Gwybodaeth Categori Arbennig

Erthygl 9 (2)(g) - prosesu gwybodaeth categori arbennig megis Iechyd, Crefydd neu Ethnigrwydd er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol a nodir uchod.

Gwybodaeth Droseddol

Erthygl 10 - yn unol ag Atodlen 1, Rhan 2.6(1)(b) o Ddeddf Diogelu Data.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth ag adrannau mewnol a sefydliadau allanol, gan ddibynnu ar y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnoch chi.

Mae modd i hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

Adrannau Mewnol y Cyngor

  • Gwasanaethau i Oedolion
  • Gwasanaethau i Blant
  • Hwb Diogelu Amlasiantaeth
  • Gwasanaethau Materion Tai
  • Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc

Sefydliadau Allanol

  • Heddlu De Cymru
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Darparwyr Tai
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Gwasanaethau Ymgynghori

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol dim ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol i ddarparu cymorth addas i chi.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut mae’r gwasanaeth yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bostiwch: CarfanArDdyletswyddGwaithCymdeithasol@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 743665 / 01443 657225

Ysgrifennwch lythyr: Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau Cwm Taf Morgannwg, Gorsaf Heddlu Pontypridd, Pontypridd, CF37 2TR