Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion y Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol (CANS)

Rhagarweiniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Gwasanaeth Plant ag Anghenion Ychwanegol (CANS).

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Teuluoedd a Mwy a CANS.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth:

E-bostio: GwasanaethTeuluoeddCydnerth@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 425006

Anfon llythyr: Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ.

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Yn rhan o'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, mae carfan CANS yn darparu pecyn cymorth tymor byr i deuluoedd ag anghenion cymhleth o ganlyniad i anghenion nam niwroddatblygiadol, gwybyddol neu gorfforol eu plant. Rôl y garfan hefyd yw cefnogi teuluoedd i reoli’r anghenion hyn a mynd i’r afael â’r effaith ar y teulu cyfan.

Mae'r garfan CANS yn cefnogi teuluoedd plant anabl ac yn ogystal â'u rôl ymyrraeth gynnar, maen nhw'n derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan y garfan Plant Anabl i weithio'n benodol ar sut mae'r anabledd yn effeithio ar y brodyr a chwiorydd a gweithrediad y teulu.

Mae Barnardo's yn cael eu comisiynu i ddarparu llinyn cymorth 'Carfan Teuluoedd' y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, gan gefnogi teuluoedd plant hyd at 25 oed yn RhCT.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol i ddarparu Teuluoedd a Mwy a CANS;

  • Defnyddwyr Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth - Plant a rhieni/gwarcheidwaid

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata ar gyfer Teuluoedd a Mwy a CANS;

  • Manylion personol - Enw, dyddiad geni
  • Manylion cyswllt - Cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn
  • Gwybodaeth Ariannol
  • Data Iechyd
  • Hil
  • Tras ethnig

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i ddarparu gwasanaethau Teuluoedd a Mwy a CANS. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Cynnal asesiad o anghenion y teulu er mwyn darparu cymorth

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol a'u darparu i'r Gwasanaeth Teuluoedd a Mwy a CANS yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Yn uniongyrchol gan deulu yn rhan o asesiadau/atgyfeiriadau
  • Unigolion proffesiynol fel;

-        Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

-        Carfan Ymholi ac Asesu

-        Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys

-        Carfan Plant Anabl

-        Yr Heddlu

-        Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

-        Seicolegwyr Addysg

-        Ysgolion

-        Gweithwyr Iechyd Proffesiynol fel Ymwelwyr Iechyd/Pediatregwyr

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol ar ran y gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth a CANS.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Adrannau eraill y Cyngor:

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS)

Ymwelydd Iechyd

Carfan Plant Anabl

Tai

Addysg

Nodi a darparu'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y teulu

Sicrhau bod holl anghenion y teulu yn cael eu cefnogi

Rhiant(rhieni)/Gwarcheidwad(waid) y plentyn

Sicrhau bod cynllun 'wedi'i arwain gan y teulu' yn cael ei roi ar waith

Asiantaethau Cymorth:

Asiantaethau Cwnsela

Asiantaethau Merched

Grwpiau Gwirfoddol

Darparu gwasanaeth cymorth effeithiol i bob aelod o'r teulu

Sicrhau bod holl anghenion y teulu yn cael eu diwallu

Ysgol

Nodi'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y person (pobl) ifanc dan sylw

Sicrhau diogelwch a lles y person (pobl) ifanc

Rhannu gwybodaeth â phaneli perthnasol i sicrhau bod y ddarpariaeth fwyaf priodol yn cael ei darparu i gefnogi'r person (pobl) ifanc

Yr Heddlu

Nodi'r cymorth perthnasol sydd ei angen ar y person (pobl) ifanc dan sylw

Er mwyn trefnu gweithiwr achos a darpariaethau ymyrryd priodol

Llywodraeth Cymru

Naill ai fesul achos neu’n flynyddol i’w helpu gyda chynllunio a gwaith ymchwil i wella gwasanaethau yng Nghymru

Cydymffurfio â gofynion cyllido at ddibenion ystadegol

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Y categori o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio i ddarparu Teuluoedd a Mwy a CANS yw:

-        Darparwyr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Teuluoedd a Mwy a CANS am:

Faint o amser

Rheswm

10 mlynedd o gau'r cofnod

Anghenion Gwasanaeth Gweithredol

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan (e.e. dogfennau sy'n cynnwys asesiadau, penderfyniadau, deilliannau ac ati). Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

E-bostio: GwasanaethTeuluoeddCydnerth@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 425006

Anfon llythyr: Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, CSK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk