Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Tanwydd/Ynni Llywodraeth Cymru / Llywodraeth San Steffan.

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Cynllun Cymorth Tanwydd/Ynni Llywodraeth Cymru / Llywodraeth San Steffan.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion gweinyddu'r cynlluniau Cymorth Tanwydd/Ynni.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw’r rheolwr data ar gyfer y data personol sy'n cael ei brosesu.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru'n rheolwr gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Pe hoffech chi holi unrhyw gwestiynau neu wneud ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd yma, e-bostiwch y gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau:

cynlluntanwyddgaeaf@rctcbc.gov.uk

neu ffonio 01443 425002

neu anfon llythyr Tŷ Oldway, Porth, CF39 9ST

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, y Cyngor fydd yn gweinyddu'r Cynlluniau Cymorth Tanwydd/Ynni. Bwriad y cynlluniau yw rhoi cymorth yn syth wrth i Gymru adfer wedi'r pandemig, a chefnogi cartrefi i ymdopi ag effaith y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.  Bydd y Cyngor yn rhyddhau taliadau ac yn prosesu cofrestriadau yn unol â gofynion y cynllun.

Gweler y ddolen am ragor o fanylion ynghylch pwy fydd â hawl i'r taliadau yma.

Data personol pwy ydyn ni'n ei brosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol i weinyddu'r cynlluniau Cymorth Tanwydd/Ynni:

  • Y rheiny sydd â hawl i’r taliadau a’r bobl sy’n byw gyda nhw.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i weinyddu'r cynlluniau Cymorth Tanwydd/Ynni:

  • Manylion cyswllt personol, gan gynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
  • Manylion Treth y Cyngor
  • Manylion budd-daliadau
  • Manylion costau gofal cymdeithasol i oedolion
  • Manylion banc

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i weinyddu'r cynlluniau Tanwydd/Ynni. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i'r gweithgareddau canlynol:

  • Gwirio a oes gyda chi'r hawl i daliad o dan y cynllun(iau), yn erbyn y gofynion sy wedi'u nodi uchod, gan gynnwys nodi a chanfod twyll
  • Gwneud gwiriadau perthnasol i'ch atal chi, neu'r rhai sy'n byw gyda chi, rhag derbyn mwy nag un taliad
  • Gwirio pwy ydych chi
  • Prosesu’r taliad yn awtomatig os ydych chi'n talu Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol ac mae gyda chi'r hawl i daliad o dan y cynllun(iau)
  • Prosesu’r taliad yn awtomatig os ydych chi wedi rhoi eich manylion banc i’r Cyngor o’r blaen ar gyfer cynlluniau cymorth eraill y Llywodraeth, megis y Cynllun Costau Byw
  • Anfon llythyr atoch chi yn eich gwahodd i gofrestru, os ydyn ni o'r farn bod gyda chi'r hawl i unrhyw un o’r taliadau
  • Prosesu’r taliad, os oes gyda chi'r hawl iddo
  • Cadarnhau pryd mae taliad yn cael ei wneud / wedi ei wneud
  • Cysylltu â chi ynghylch eich cofrestriad, os bydd unrhyw ymholiadau gyda ni

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i weinyddu'r cynlluniau cymorth Tanwydd/Ynni yw:

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

-       Gweinyddu'r cynlluniau ar ran Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Cofnodion Treth y Cyngor sydd gyda ni eisoes
  • Cofnodion budd-daliadau sydd gyda ni eisoes
  • Cofnodion gofal cymdeithasol sydd gyda ni eisoes
  • Cofnodion budd-daliadau sy'n cael eu cadw gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Chi, os byddwch chi'n cyflwyno ffurflen gofrestru i Lywodraeth Cymru / Llywodraeth San Steffan, neu drwy ohebu â ni
  • Aelod o’ch teulu / rhywun sy'n byw ar eich aelwyd / yn eich eiddo, sy'n cynnwys eich manylion ar ffurflen gofrestru

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu’r data personol â’r sefydliadau allweddol canlynol i weinyddu cynlluniau Cymorth Tanwydd/Ynni

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Adrannau mewnol RhCT

Er mwyn cadarnhau'r wybodaeth a ddaeth i law ac i wirio a ydych chi'n gymwys ar gyfer y cynllun(iau).

Awdurdodau priodol pan fo angen

Pan fydd gwybodaeth ffug, anghywir neu gamarweiniol yn cael ei rhoi i ni yn fwriadol, gall fod yn destun camau erlyn.

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan

Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth ystadegol ddienw. Fydd dim modd eich adnabod chi o'r wybodaeth yma.

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n ei dal yn ddiogel ac yn ei chadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion gweinyddu'r cynlluniau Cymorth Tanwydd/Ynni:

-       Cyflenwyr systemau / darparwyr gwasanaeth TGCh

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw’r data personol sydd wedi’i gynnwys yng nghofnodion cynlluniau cymorth Tanwydd/Ynni am:

Faint o amser

Rheswm

2 flynedd ar ôl gwneud y cais gwreiddiol

Gweinyddu cynlluniau tanwydd yn y dyfodol

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael ei gadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael ei gadw am y cyfnod cadw cyfan. Os nad oes gwerth hirdymor neu dystiolaethol i'r wybodaeth, caiff ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd gwneud hyn trwy gysylltu'n uniongyrchol â'r gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau trwy un o'r dulliau canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

E-bost: cynlluntanwyddgaeaf@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425002

Anfonwch lythyr: Tŷ Oldway, Porth, Cwm Rhondda, CF39 9ST

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk