Skip to main content

Step In The Right Direction

 

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Camu i'r Cyfeiriad Cywir.

Rhagarweiniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Camu i'r Cyfeiriad Cywir.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor 

Y Rheolydd Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Camu i'r Cyfeiriad Cywir.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Garfan Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant.

E-bost: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 570034

Drwy'r post:  Carfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Cyngor yn cynnig hyfforddiant unigryw i blant sy'n derbyn gofal. Mae'r cynnig yn cynnwys cyfle i weithio llawn amser am ddwy flynedd a derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol i fanteisio ar nifer o leoliadau hyblyg a chefnogol o fewn y Cyngor.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu data personol yn ymwneud â'r unigolion canlynol sydd wedi'u henwebu i fod yn rhan o brosiect Camu i'r Cyfeiriad Cywir:

  • Plant, pobl ifainc
  • Rhieni, gwarcheidwaid, cynhalwyr (gofalwyr)

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i gefnogi'r person ifanc yn ei leoliad (a pherthynas agosaf y person ifanc):

  • Enw a dyddiad geni
  • Cyfeiriad a chod post
  • Manylion cyswllt, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Manylion banc
  • Hanes cyflogaeth a chofnodion hyfforddi
  • Llun ar gyfer cardiau adnabod staff
  • Iechyd
  • Tarddiad crefyddol a hil neu ethnig
  • Data troseddol, gwybodaeth am unrhyw euogfarnau blaenorol a chanlyniadau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu data personol i gefnogi person ifanc wrth fynd ati yn ei leoliad. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Asesu ffurflen gais pan mae person ifanc yn gwneud cais am fod yn rhan o'r cynllun
  • Cwblhau gwiriadau perthnasol, megis gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • I gyfweld â'r person ifanc yn ffurfiol - os yw'n llwyddiannus bydd y person ifanc yn cael ei benodi ac yn cael cynnig cyfle am ddwy flynedd
  • I ddarparu cymorth emosiynol a chymorth cyflogaeth er mwyn cynnal y person ifanc yn ei rôl 
  • Sefydlu cyfloglen ac ID staff i'r person ifanc 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer Camu i'r Cyfeiriad Cywir yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol Erthygl 6(c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rhwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i rhoi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • A ninnau'n gyflogwr, rydyn ni'n dilyn cyfraith cyflogaeth ar gyfer y gyflogres a dibenion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (legislation.gov.uk)

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Rydyn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Person ifanc wrth gyflwyno cais am y cynllun
  • Gweithiwr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda'r person ifanc ar adeg cyflwyno cais

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â'r sefydliadau allweddol canlynol i'w prosesu a darparu lleoliad i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Adran y Cyngor (lleoliadau)

Lle bydd y person ifanc wedi'i leoli

 

Yn ogystal ag (ond heb ei gyfyngu i) Adnoddau Dynol

 

Er mwyn sicrhau ein bod ni'n trefnu lleoliad sy'n addas ar gyfer y person ifanc

Rhag ofn bod unrhyw bryderon diogelu'n dod i law a bod rhaid rhoi gwybod i adrannau eraill

Adran y Gyflogres

I greu proffil o fewn Cyngor Rhondda Cynon Taf

(Adran y Cyngor megis y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid / Iechyd Rhywiol

I gefnogi person ifanc os ydyn nhw'n ymwneud â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac fel Rhiant Corfforaethol, os yw person ifanc yn rhannu gwybodaeth rydyn ni o'r farn sydd angen cymorth

 

Lleoliad gwaith allanol

I sicrhau ein bod ni'n trefnu lleoliad sy'n addas i'r person ifanc

Trafod cyrhaeddiad ac unrhyw bryderon sydd gan y person ifanc/lleoliad gwaith

 

Cymdeithasau Tai

I gefnogi'r person ifanc i gadw ei denantiaeth

 

Yr Heddlu

Os oes gyda ni bryderon ynghylch y person ifanc sy'n galw am sylw'r Heddlu

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categori o brosesyddion data rydyn ni'n eu defnyddio:

  • Darparwyr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Camu i'r Cyfeiriad Cywir am:

Faint o amser

Rheswm

2 flynedd ar ôl diwedd contract Camu i'r Cyfeiriad Cywir

Yn hanesyddol, mae ein pobl ifainc yn cysylltu â ni i gael gafael ar gofnodion hyfforddiant, tystysgrifau ac ymholiadau yn ymwneud â dyddiadau dechrau/gorffen eu lleoliadau gwaith er mwyn sicrhau cywirdeb wrth ddechrau cyflogaeth newydd.

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael eu cadw am y cyfnod cyfan.  Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: carfancyflogaethaddysghyfforddiant@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn:  01443 570034
  • neu anfonwch lythyr at: Carfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk