Skip to main content

HAWL I GLUDO DATA

Pa hawliau sydd gen i?

Mae'r hawl i gludo data yn eich caniatáu i gael ac ailddefnyddio'ch data personol ar gyfer eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau. Mae'n eich galluogi chi i symud, copïo neu drosglwyddo'ch data yn rhwydd o un gwasanaeth i'r llall, mewn modd diogel a thrwy ddulliau electronig. Dydy'r hawl yma ddim yn gymwys ar gyfer yr holl ddata.

Pryd mae'r hawl yma yn gymwys?

Bydd yr hawl i gludo data dim ond yn gymwys:

  • Os ydych chi wedi darparu'ch gwybodaeth bersonol i'r Cyngor yn uniongyrchol;
  •  Lle mae'r Cyngor yn prosesu'r wybodaeth gyda'ch caniatâd neu ar gyfer cyflawni contract; a 
  •  Pan fydd y prosesu yn cael ei gyflawni drwy ddulliau awtomatig (h.y. heb fod swyddog yn rhan o'r broses)

 I ba wasanaethau'r Cyngor y mae'r hawl yma'n gymwys iddyn nhw?

Ar hyn o bryd, dydy'r hawl cludo data ddim yn gymwys i unrhyw un o wasanaethau'r Cyngor. Mae hyn am fod y gwasanaethau ddim wedi'u hawtomeiddio'n llwyr (h.y. heb fod Swyddogion y Cyngor yn rhan o'r broses) a dydyn nhw ddim yn cael eu cyflawni gyda chaniatâd/o dan gontract. 

Os bydd yr hawl i gludo gwybodaeth yn gymwys i wasanaeth yn y dyfodol, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am hyn drwy'r hysbysiadau preifatrwydd gwasanaeth.

Mae modd gweld hysbysiadau preifatrwydd gwasanaeth yma.