Skip to main content

Ceisiadau am Eithiriadau

Ceisiadau am wybodaeth bersonol at ddibenion Troseddu a Threthiant

Mae'r hawl i weld gwybodaeth bersonol o dan Atodlen 2, Paragraff 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn ddewisol, ond, mae modd caniatáu eu datgelu os yw'r achos yn gysylltiedig â'r canlynol:

a) Atal neu ddatrys troseddau,

b) Dal neu erlyn tramgwyddwyr, neu

c) Asesu neu gasglu unrhyw drethi neu dollau neu gosb o natur debyg.

Mae'r eithriad yn berthnasol i'r diben dan sylw, nid y math o sefydliad sy'n gwneud y cais; ond, gan amlaf, mae ceisiadau o'r fath yn cael eu gwneud gan yr heddlu ar gyfer atal a datrys troseddau, neu gan asiantaethau eraill y Llywodraeth / asiantaethau partner eraill ar gyfer asesu neu gasglu trethi/tollau. 

Sut ydw i'n gwneud cais?

Mae angen gwneud pob cais yn ysgrifenedig e.e. trwy lythyr, e-bost ac ati.  Bydd y Cyngor ond yn delio â cheisiadau ar lafar o dan amgylchiadau eithriadol e.e. lle mae'r heddlu yn ceisio dod o hyd i droseddwr y credir ei fod wedi troseddu'n ddifrifol ac yn peri perygl i'r gymuned ehangach. Pan mae cais yn cael ei gyflwyno ar lafar, rhaid i'r sawl sy'n gofyn amdano gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Cyngor wedi’r cais gwreiddiol.

Cais i ddatgelu data personol at ddibenion Troseddu a Threthiant 

Wrth wneud cais, pa wybodaeth dylwn i ei darparu?

Mae'r ffurflen yn nodi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth amdanoch chi ac/neu am y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo, yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, a'r rheswm dros wneud y cais. Bydd rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl ar y ffurflen yn ein helpu ni i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n gwneud cais amdani, ac yn ein galluogi ni i ymateb i'ch cais yn gyflymach.

I ble rydw i'n anfon y cais?

Mae modd anfon y cais drwy e-bost neu ei bostio'n uniongyrchol at yr adran y mae'r cais yn ymwneud â hi (os oes gennych chi'r wybodaeth gyswllt berthnasol), neu mae modd ei hanfon at y Garfan Rheoli Gwybodaeth:

CBSRhCT


Rheoli Gwybodaeth/Information Management 
Canolfan Hamdden Cwm Rhondda Fach | Rhondda Fach Leisure Centre
Tylorstown
Rhondda Cynon Taf
CF43 3HR

Ebost: Rheoli.Gwybodaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk